Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg Plant

Mae Podiatrydd Plant (Podopaediatreg) yn asesu strwythur y coesau a swyddogaeth traed. Gall hyn gynnwys pryderon yn ymwneud â nam, cyfranogiad a llesiant sy'n gysylltiedig ag iechyd traed, fferau a choesau.

Darperir arweiniad ar weithgaredd, esgidiau, ymarferion, a'r angen am reolaeth orthotig/mewnwadn; wedi'i ategu gan addysg.

Gall podiatryddion chwarae rhan fawr wrth wella swyddogaeth, ansawdd bywyd yng ngherddediad plant (cerdded) a chyflyrau coes, ac maent yn aelodau gwerthfawr o'r tîm amlddisgyblaethol ehangach.

 

Cadw Fi’n Iach

Mae ein tîm o Bodiatryddion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth a chyngor ar ein gwefan Cadw Fi'n Iach at ei gilydd ar  iechyd traed, pigwrn ac aelodau isaf plant.  Ymwelwch ag adran gwefan Podiatreg Plant yma.

 
Isod gweler dolenni defnyddiol o wefannau'r GIG a chan y Coleg Podiatreg ar gyfer problemau cyhyrysgerbydol cyffredin, sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.
 

Poen yn y nos/ coesau yn brifo
https://www.nhs.uk/conditions/growing-pains/

Poen pen-glin: cyflyrau cyffredin sy'n gysylltiedig â pheon pen-glin mewn plant
https://www.nhs.uk/conditions/knee-pain/

Traed fflat

Bynion (Hallux abducto valgus)

Amrywiadau cerdded/ cerddediad


Amrywiadau arferol bysedd traed fel colomen
https://videos.torbayandsouthdevon.nhs.uk/Childrens-physiotherapy
 
Amrywiadau arferol cerdded ar fodiau eu traed gan blant
https://videos.torbayandsouthdevon.nhs.uk/Childrens-physiotherapy
 

Amrywiadau arferol cerdded ar draed fflat gan blant

https://videos.torbayandsouthdevon.nhs.uk/Childrens-physiotherapy


Ymarferion

Os yw'ch Podiatrydd wedi rhoi ymarferion i'ch plentyn fel ymestyn neu falansio, gallwch wylio'r fideos isod gyda chyngor ar sut i'w berfformio'n effeithiol ac yn ddiogel.
 
Ymarferion ymestyn syml i goesau eich plentyn
https://videos.torbayandsouthdevon.nhs.uk/Childrens-physiotherapy
 
 

Problemau Croen ac Ewinedd sy'n gyffredin ymysg plant a phobl ifanc

Weithiau gall pobl ifanc a phlant ddatblygu rhai o'r problemau croen ac ewinedd cyffredin hyn.
 
Sylwch y  byddwn fel gwasanaeth yn diweddaru'r wybodaeth hon wrth i bandemig Covid 19 leddfu.
Dilynwch ni