Neidio i'r prif gynnwy

Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid

Mae'r Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid Ruth Rhydderch ar gael 9.00am - 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae hi'n darparu cefnogaeth i bobl â nam ar eu golwg trwy helpu gyda gwasanaethau cofrestru, cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, gwybodaeth am gyflyrau llygaid, cymhorthion golwg gwan, cyflwyniad i wasanaethau cymorth a budd-daliadau a lwfansau perthnasol.

Anogir cleifion, aelodau o'r teulu a gofalwyr i dreulio amser yn gofyn cwestiynau ac yn trafod unrhyw bryderon gyda Ruth.

Os hoffech siarad â Ruth wrth ddod i'ch apwyntiad, gofynnwch i aelod o staff. Os yw'n well gennych, gall Ruth gysylltu â chi dros y ffôn neu e-bost ar ôl eich apwyntiad petaech yn rhoi eich manylion cyswllt i aelod o staff.

Dilynwch ni