Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru sydd ar Gael

Ein nod yw darparu ystod gynhwysfawr o ymgynghoriadau, ymchwiliadau a thriniaethau atgenhedlu â chymorth mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar, a gyflwynir mewn ffordd nad yw'n barnu. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i ddarparu gofal a thriniaeth o'r ansawdd uchaf er mwyn cynyddu'r siawns o lwyddo i'r eithaf.

Mae gennym drwydded i ddarparu'r triniaethau canlynol:

  • Ffrwythloni Mewngroth (IUI)
  • Ffrwythloni Mewngroth gyda semen a roddwyd (DIUI)
  • Ffrwythloni In Vitro (IVF)
  • Chwistrelliad Sberm Mewnsytoplasmig (ICSI)
  • Allsugno sberm epididymol trwy'r croen (PESA)
  • Tynnu sberm o'r ceilliau (TESE)
  • Rhewi Embryo
  • Rhewi Sberm
  • Rhoi Wyau
  • IVF Benthyg Croth
  • Rhoi Embryo
  • Deor â Chymorth
  • Gwydreiddio Wyau ac Embryonau
  • Gwasanaeth Androleg
Dilynwch ni