Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Feddygon Teulu a Chlinigwyr sy'n Atgyfeirio

Mae'n rhaid defnyddio ffurflen atgyfeirio safonedig Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru ar gyfer yr holl gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio i'r gwasanaethau atgenhedlu â chymorth a gynhelir yn Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru.

Mae ffurflen atgyfeirio unigol ar gyfer y gwasanaeth Androleg diagnostig, sydd ar gael o dan yr adran Atgyfeiriadau Androleg isod.

Cefnogi cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth

Bydd llawer o gleifion eisoes wedi mynd at eu meddyg teulu i gael cyngor ar ffordd iach o fyw cyn ceisio beichiogi. Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer triniaeth yn nodi'r canlynol:

• Mae'n rhaid i BMI y partner benywaidd fod rhwng 19 a 30

• Mae'n rhaid i'r ddau bartner beidio â bod yn ysmygwyr ar adeg y driniaeth.

Mae'n debygol y bydd cleifion yn ceisio cyngor gan eu meddyg teulu ynglŷn â cholli pwysau a rhoi'r gorau i ysmygu er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys i gael cynnig triniaeth.

Meini prawf ar gyfer triniaeth trwy'r GIG

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru wedi gosod y meini prawf canlynol.

Ffrwythloni In Vitro (IVF) neu Chwistrelliad Sberm Mewnsytoplasmig (ICSI)

Dylai cylch llawn o driniaeth IVF, gydag ICSI neu hebddo, gynnwys un achos o ysgogi ofarïaidd a throsglwyddo unrhyw embryo(nau) ffres a rhewedig canlyniadol. Bydd hyn yn cynnwys storio unrhyw embryonau rhewedig am flwyddyn ar ôl casglu wyau. Cynghorir cleifion ar ddechrau'r driniaeth mai dyma lefel y gwasanaeth sydd ar gael trwy'r GIG ac na fydd y GIG yn talu am storio ar ôl y cyfnod hwn. Bydd cleifion yn cael eu cwnsela, ac yn cytuno y bydd angen iddyn nhw dalu am storio unrhyw embryonau rhewedig ar ôl y cyfnod hwn, neu ganiatáu iddynt ddarfod.

Oed y Fenyw

Mae gan fenywod sy'n iau na 40 oed ac sy'n bodloni'r meini prawf mynediad yr hawl i gael hyd at ddau gylch o IVF, gydag ICSI neu hebddo, ar yr amod bod y driniaeth yn parhau i fod yn briodol yn glinigol. Fodd bynnag, os bydd y fenyw'n cyrraedd 40 oed yn ystod y cylch triniaeth cyntaf, ni fydd ganddi'r hawl i gael ail gylch o IVF. Mae gan fenywod rhwng 40 a 42 oed sy'n bodloni'r meini prawf mynediad yr hawl i gael un cylch o IVF, gydag ICSI neu hebddo, ar yr amod bod y 3 maen prawf canlynol yn cael eu bodloni hefyd:

• nid ydynt erioed wedi cael triniaeth IVF o'r blaen 

• nid oes tystiolaeth o gronfa ofarïaidd isel

• trafodwyd goblygiadau ychwanegol IVF a beichiogrwydd ar yr oedran hwn.

Plant Presennol

Mae IVF trwy'r GIG ar gael i barau nad oes ganddynt unrhyw blant byw (biolegol neu fabwysiedig) neu barau lle nad oes gan un o'r partneriaid unrhyw blant byw (biolegol neu fabwysiedig). O ran menywod/dynion sengl - mae ar gael os nad oes gan y fenyw/dyn unrhyw blant byw (biolegol neu fabwysiedig).

Mynegai Màs y Corff [BMI]

Mae'n rhaid bod gan y partner benywaidd fynegai màs y corff o 19 o leiaf, a hyd at ac yn cynnwys 30. Ni fydd cleifion sydd y tu hwnt i'r amrediad hwn yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros a dylent gael eu hatgyfeirio'n ôl i'r clinigydd a'u hatgyfeiriodd a/neu eu meddyg teulu i gael eu rheoli lle y bo'r angen.

Diffrwythloni

Nid yw is-ffrwythlondeb yn digwydd o ganlyniad i weithdrefn ddiffrwythloni yn y naill bartner neu'r llall/menyw sengl/dyn sengl (nid yw hyn yn cynnwys amodau lle mae diffrwythloni'n digwydd o ganlyniad i broblem feddygol arall). Ni ddylai parau/menywod sengl/dynion sengl sydd wedi cael gweithdrefn wrthdroi gael eu hatgyfeirio ar gyfer triniaeth.

Ysmygu

Ni fydd y claf yn gymwys os yw'r naill neu'r llall o'r pâr/menyw sengl/dyn sengl yn ysmygu. Dim ond cleifion sy'n cytuno i gymryd rhan mewn rhaglen rhoi'r gorau i ysmygu gyda chymorth fydd yn cael eu derbyn ar y rhestr aros ar gyfer triniaeth IVF, ac mae'n rhaid iddynt beidio â bod yn ysmygu ar adeg y driniaeth.

Hanes triniaeth flaenorol

O ran cleifion sengl, bydd tri chylch IVF neu fwy gan y claf yn atal unrhyw driniaeth IVF bellach trwy'r GIG. O ran parau, bydd tri chylch IVF neu fwy gan y naill bartner neu'r llall yn atal unrhyw driniaeth IVF bellach trwy'r GIG. Bydd cylchoedd blaenorol, boed hynny trwy'r GIG neu wedi'u hariannu'n breifat, yn cael eu hystyried.

Is-ffrwythlondeb

Mae'n rhaid i is-ffrwythlondeb gael ei ddangos cyn y gellir cael triniaeth IVF a ariennir trwy'r GIG. Diffinnir is-ffrwythlondeb ar gyfer parau heterorywiol fel anallu i feichiogi ar ôl 2 flynedd o gyfathrach rywiol heb ddiogelwch neu broblem ffrwythlondeb a ddangoswyd trwy ymchwiliad. Diffinnir is-ffrwythlondeb ar gyfer parau o'r un rhyw/menywod sengl/dynion sengl fel dim genedigaeth fyw yn dilyn ffrwythloni (insemination) ar yr adeg ofylu hysbys, neu ychydig cyn yr adeg honno, ar chwe chylch heb eu hysgogi o leiaf, neu broblem ffrwythlondeb a ddangoswyd trwy ymchwiliad. O ran parau o'r un rhyw/menywod sengl/dynion sengl, gallai'r cylchoedd heb eu hysgogi gael eu cyflawni trwy drefniant preifat neu drwy IUI a ddarparwyd trwy'r GIG gyda sberm rhoddwr. Nid yw ffrwythloni mewngroth (IUI) yn cael ei ariannu gan Wasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC).

Byrddau Iechyd sy'n gyfrifol am ariannu IUI. Pan fydd angen sberm rhoddwr i gynnal IUI, bydd y sberm a roddwyd yn cael ei ariannu gan WHSSC, ond nid y weithdrefn IUI. O ran menywod 40-42 oed, rhaid bod dim tystiolaeth o gronfa ofarïaidd isel hefyd.

Proses Atgyfeirio Androleg

Atgyfeiriadau dadansoddi semen diagnostig:

O ran cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio ar gyfer dadansoddi semen, dylid rhoi'r ffurflen atgyfeirio berthnasol wedi'i llenwi iddynt a phot penodol a ddarperir i bob atgyfeiriwr gan Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru. Gofynnir i gleifion gysylltu â'r Uned yn uniongyrchol i drefnu apwyntiad sy'n gyfleus.

• Dylai'r sampl gael ei danfon i'r Uned o fewn 2 awr o gael ei chynhyrchu.

• Dylid rhoi gwybod i gleifion hefyd y bydd y canlyniad yn cael ei anfon ymlaen i'w meddygfa o fewn 7 i 10 niwrnod ar ôl dadansoddi'r sampl.

• Ni fydd unrhyw ganlyniadau'n cael eu rhoi dros y ffôn am resymau cyfrinachedd.

• Yn anffodus, ni fydd samplau sy'n cael eu cyflwyno heb y wybodaeth berthnasol yn cael eu dadansoddi.

• Ni fydd cleifion sy'n dod i'r Sefydliad heb apwyntiad wedi'i drefnu yn cael eu gweld.

• O ran atgyfeiriadau i'r gwasanaeth atgenhedlu â chymorth, mae'n rhaid i bob rhan o'r ffurflen gael ei llenwi fel bod gan y Sefydliad wybodaeth am yr ymchwiliadau rhagarweiniol sylfaenol llawn y dylid eu cynnal ar y lefel gofal sylfaenol.

• Yn anffodus, os nad yw'r wybodaeth atgyfeirio'n gyflawn neu'n gywir, ni fyddwn yn gallu derbyn yr atgyfeiriad yn y Sefydliad.

Atgyfeirio ar gyfer ystyried storio sberm:

Os hoffech drefnu storio sberm ar gyfer un o'ch cleifion oncoleg, bydd angen i chi ddilyn y weithdrefn isod.

• Dywedwch wrth y claf y byddwn yn cysylltu ag ef yn fuan i drefnu ei apwyntiad cyntaf ar gyfer storio sberm.

• Anfonwch neges e-bost atom yn cynnwys enw'r claf, ei ddyddiad geni a'i rif ysbyty, yn ogystal â'i fanylion cyswllt, fel y gallwn drefnu'r apwyntiad gydag ef.

• Bydd angen i'r claf gael ei brofi ar gyfer y canlynol:

Sgrinio gwaed

• HIV 1 a 2 (Anti-HIV – 1, 2)

• Hepatitis B (HBsAg/Anti-HBc)

• Hepatitis C (Anti-HCV-Ab)

• TPHA a VDRL

Sgrinio arall

• Swab wrethrol ar gyfer gonorea

• Prawf wrin ar gyfer clamydia

• Prawf gwrthgyrff HTLV- 1 a 2

• Mae canlyniadau sgrinio firoleg yn ddilys dim ond os cafwyd nhw dim mwy na 15 niwrnod cyn storio sberm.

• Gwnewch yn siŵr eich bod yn postio/ffacsio neu e-bostio'r canlyniadau sgrinio firoleg uchod atom.

• Bydd angen i chi bostio/ffacsio neu e-bostio llythyr atgyfeirio atom hefyd.

• Rhowch gopi o'n Llyfryn Rhewi Sberm i'r claf, a fydd yn rhoi gwybodaeth gefndir iddo am y gweithdrefnau rhewi sberm yn IVF Cymru a'r agweddau ymarferol ar rewi sberm a'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ef.

• Gwiriwch a oes gan y claf bartner.

• Rhowch gopi o'r ffurflen HFEA_CD_FORM i'r claf. Bydd angen i bartner y claf lenwi'r ffurflen hon hefyd.

• Rhowch gopi o'r ffurflen HFEA_GS_FORM i'r claf.

• Os oes gan y claf bartner, rhowch gopi o'r ffurflen HFEA_MT_FORM i'r claf.

• Rhowch wybod i'r claf y bydd angen iddo ddod â'r ffurflenni uchod i'w apwyntiad storio sberm cyntaf.

• Rhowch wybod i'r claf y bydd angen iddo ddod â phrawf adnabod â llun (h.y. trwydded yrru neu basbort) i'w apwyntiad storio sberm cyntaf, yn ogystal â phrawf adnabod â llun ar gyfer ei bartner.

Dogfennau eraill:

Atgyfeirio Rhewi Sberm V2

Y Tîm Embryoleg

Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru
Coridor cyswllt C1
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Rhif ffôn: 029 20 74 3558
Rhif ffacs: 029 20 74 5158 (at sylw'r Tîm Embryoleg)

E-bost:  Anna.Storey@wales.nhs.uk

            Paul.knaggs@wales.nhs.uk

            Sarah.evans40@wales.nhs.uk    

            Felicity.heath@wales.nhs.uk

            Kathleen.rennison@wales.nhs.uk

            Eleri.middleton@wales.nhs.uk

 

 

 

Dilynwch ni