Neidio i'r prif gynnwy

Yn Ystod eich Triniaeth

Rydym yn gwybod bod cael triniaeth yn adeg emosiynol a phryderus iawn i gleifion. Rydym yn annog parau i gael eu cynnwys yn barhaus mewn triniaeth, gan sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r holl brosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol, ac yn deall y sail resymegol i'r penderfyniadau hynny. Bydd pob agwedd ar eich triniaeth yn cael ei thrafod gyda chi drwy gydol eich cylch triniaeth, ac mae'r staff yn yr Uned ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. 

Ceisiwn sicrhau eich bod yn teimlo'n rhan o'r broses benderfynu drwy gydol eich triniaeth ac yn ymwybodol o gamau nesaf eich cylch. Byddwch wedi cael canllaw dydd i ddydd i sicrhau bod gennych gofnod cywir o unrhyw gyfarwyddiadau ac apwyntiadau ar gyfer eich cylch triniaeth. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i chi wneud nodyn o unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn i'r staff neu bethau yr hoffech eu cofio pan fyddwch yn dod i'ch apwyntiad.

Byddwch yn cyfarfod ag aelodau gwahanol o'r tîm yn ystod eich cylch, gan gynnwys staff gweinyddol, nyrsio, meddygol, embryoleg a theatr. Er ein bod yn sylweddoli y gall fod yn anodd cyfarfod ag aelodau gwahanol o'r tîm, byddwn yn parhau i sicrhau eich bod yn teimlo'n gyfforddus yn yr amgylchedd ac yn cael gwybodaeth lawn am eich gofal.

Mae rhagor o wybodaeth am gymorth gan sefydliadau eraill ar gael yn yr adran Adnoddau Defnyddiol.

 

Dilynwch ni