Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru

Mae Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru yn cynnig ystod lawn o driniaethau atgenhedlu â chymorth a gofal o'r safon uchaf.  

Mae ein tîm tra chymwysedig o ymgynghorwyr, embryolegwyr, nyrsys a staff labordy, cwnsela a gweinyddol yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i barau sy'n ceisio cyngor a thriniaeth ynglŷn ag anffrwythlondeb i'w helpu i gyrraedd eu nod o greu teulu.

Sylweddolwn fod atgenhedlu â chymorth yn gallu bod yn brofiad emosiynol iawn, ac rydym yn cynnig cynllun wedi'i deilwra'n unigol i bob pâr i'w helpu i gymryd rhan yn weithredol a sicrhau bod ganddynt ffydd lwyr mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu triniaeth.

Mae gan Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru gysylltiadau cryf â'r tîm ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe sy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gynyddu siawns parau anffrwythlon o feichiogi. Mae hyn yn caniatáu i ni ddatblygu'r technegau diweddaraf ym maes atgenhedlu â chymorth yn barhaus, a sicrhau bod ein cleifion yn cael cynnig y driniaeth fwyaf priodol.

Disgwylir i bob aelod o'r tîm weithredu mewn ffordd sy'n gyson â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd; "gofalu am ein gilydd", "cydweithio" a "gwella bob amser”. 

Byddwn yn cofio rhoi'r claf wrth wraidd ein holl weithredoedd a phenderfyniadau.

Dyma rai o aelodau'r tîm:

Dr Paul Knaggs

Unigolyn Cyfrifol/Embryolegydd Ymgynghorol

Mrs Michelle Mason-Gawne Pennaeth y Gwasanaeth

Mr Gurpreet Kalra

Cyfarwyddwr Clinigol
Mrs Sharron Price Metron

Mrs Stephanie Herring

Rheolwr Ansawdd

Mrs Samantha Parry

Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro

Mrs Arianna D’Angelo

Ymgynghorydd
Mrs Mona Zaki Ymgynghorydd

Y Tîm/Timau Labordy

Yn Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru, mae gennym Dîm Embryoleg proffesiynol ac ymroddedig sy'n gallu cynnig triniaeth, gofal a chyngor arbenigol o ansawdd uchel i gleifion. Mae ein Tîm Embryoleg wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth personol, gan ddefnyddio ei arbenigedd a'i wybodaeth i sicrhau bod cleifion yn cael y canlyniad gorau o'u triniaeth. Mae'r tîm yn cynnwys embryolegwyr, androlegydd a chynorthwy-ydd labordy meddygol.

Y Tîm Nyrsio 

Mae'r Tîm Nyrsio yn cynnwys Nyrsys Cyffredinol Cofrestredig a Chynorthwywyr Nyrsio.

Mae'r Sefydliad wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus y staff nyrsio, sy'n ymgymryd â hyfforddiant Nyrs Ffrwythlondeb penodol yn y ganolfan ac yn allanol.

Mae ymchwiliadau a thriniaeth ffrwythlondeb yn cymryd amser ac yn achosi straen, ac mae'r tîm nyrsio'n ystyried mai un o'u prif swyddogaethau yw cynghori a chynorthwyo cleifion drwy gydol y cyfnod hwn. Rydym yn falch o wneud hyn yn ystod eich apwyntiadau a dros y ffôn.

Y Tîm Gweinyddol

Mae'r Tîm Gweinyddol yn cefnogi'r broses o gynnal y ganolfan ac yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn cael profiad da gyda Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru. Mae'r staff yn cynnwys y Rheolwr Ansawdd, yr Arweinydd Rheoli Gwybodaeth a swyddogion cymorth gweinyddol ymroddedig. 

Y Tîm Cwnsela

Mae cwnsela'n rhan annatod o'n gwasanaeth. Mae gennym dîm cwnsela penodol sy'n gallu cynorthwyo cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, ac mae cwnsela ar gael cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth.

Dilynwch ni