Neidio i'r prif gynnwy

Oncoleg Gynaecoleg

Mae Canolfan Ganser Menywod Cymru yn yr Adran Obstetreg a Gynaecoleg, sydd wedi'i lleoli yn yr Uned Fenywod yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n rhan o Rwydwaith Canser De Cymru, ac mae'n darparu gwasanaeth atgyfeirio trydyddol oncoleg gynaecolegol ar gyfer De-ddwyrain Cymru a rhannau o Dde-orllewin Cymru. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth atgyfeirio eilaidd ar gyfer poblogaeth Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn cynnwys pum is-arbenigwr Oncoleg Gynaecoleg ymgynghorol, a gefnogir gan dîm amlddisgyblaethol profiadol sydd, gyda'i gilydd, yn darparu, cynnal a chyflwyno gofal arbenigol priodol o'r safon uchaf i gleifion a'u perthnasau a atgyfeirir i'r ganolfan. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys 19 o welyau cleifion mewnol, clinig cleifion allanol mynediad cyflym a chlinigau cyn-asesu a arweinir gan ymarferwyr nyrsio. Mae gweithio mewn partneriaeth â'r Ganolfan Oncoleg Glinigol Ranbarthol yn Ysbyty Felindre wedi gwella'r gwasanaethau a ddarperir i fenywod.

Mae mwy na 70% o'r llwyth gwaith clinigol yn dod o'r tu allan i Gaerdydd, a cheir perthnasoedd gweithio da gyda'r rhan fwyaf o ysbytai yn ne a gorllewin Cymru. Cydweithir yn agos gyda gynaecolegwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chyda disgyblaethau cysylltiedig patholeg, radioleg a meddygaeth liniarol, a chyfathrebir yn dda â meddygon gofal sylfaenol.

Mae'n rhaid i atgyfeiriadau gael eu hanfon drwy ffacs i 029 2184 1250, neu drwy gysylltu ag un o'r ysgrifenyddion. 

Dilynwch ni