Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrannu Rhodd i Gyfrif Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Baban Newydd-anedig

Mae llawer o deuluoedd yn dweud wrthym yr hoffent roi rhywbeth yn ôl i'r uned famolaeth.

Os hoffech wneud hyn, mae Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro (rhif elusen gofrestredig 1056544) yn dal cronfa benodol (rhif 9114) ar gyfer ein hadran. Mae sawl ffordd o gyfrannu rhodd:

  • Tecstio ‘BABY12 £5’ neu ‘BABY12 £10’ i 70070.
  • Ffonio 029 2184 1802 i wneud taliad gyda cherdyn i Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro (rhif 9114)
  • Drwy'r post, gyda siec wedi'i gwneud yn daladwy i ‘Cardiff & Vale Health Charity’ (rhif 9114)

Er nad oes rhwymedigaeth i gyfrannu rhodd, rydym yn ddiolchgar iawn am unrhyw roddion a gawn. Mae'r holl roddion yn cael eu defnyddio i wella'r amgylchedd gofal ar gyfer menywod sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Mae enghreifftiau o hyn i'w gweld ar dudalen Facebook ein Gwasanaethau Mamolaeth, neu gofynnwch i'ch bydwraig sut mae'ch haelioni wedi gwneud gwahaniaeth i famau a babanod yng Nghaerdydd a'r Fro.

Dilynwch ni