Neidio i'r prif gynnwy

Niwrolawdriniaeth

Mae niwrolawdriniaeth yn arbenigedd cymhleth sy'n cynnwys risg mawr, a chyfran uchel ohono'n waith brys ac argyfwng. Mae'n arbenigedd amrywiol ac mae'n cynnwys gofal acíwt a thymor hwy i gleifion sydd ag anhwylderau'r ymennydd, madruddyn y cefn, y nerfau, y benglog a'r asgwrn cefn. Mae'n cynnwys rheoli cleifion sydd â thiwmorau, gwaedlifau, hydroseffalws, trawma, clefyd dirywiol yr asgwrn cefn, annormaleddau cynhenid, poen anhydrin, anhwylderau symud, epilepsi a rhai anhwylderau meddwl.

Ceir cysylltiadau agos â Niwroleg, Gofal Critigol, Niwroleg Baediatrig a Niwroradioleg.

Mae niwrolawdriniaeth frys a niwrolawdriniaeth greuanol a gynhaliwyd yn flaenorol yn Ysbyty Treforys, Abertawe wedi'u trosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru. 

Atgyfeirio Tiwmor Ymennydd

Os ydych yn feddyg a hoffai atgyfeirio claf sydd â thiwmor ymennydd i ni, lawrlwythwch y Profforma Atgyfeirio MDT a dilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen.

Lleoliad

Mae'r adran yn Ysbyty Athrofaol Cymru i'w chael ar Ward B4. Fe'i rheolir yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Niwrowyddorau.

 

Dilynwch ni