Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Addysgu

Mae'r Adran Addysg Feddygol yn cynnig ystod eang o raglenni addysgu.

Rhaglen Hyfforddi Sylfaenol

Rhaglen hyfforddi gyffredinol dwy flynedd yw'r Rhaglen Sylfaen, sy'n ffurfio'r bont rhwng yr ysgol feddygol a hyfforddiant arbenigol/ practis cyffredinol.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen, cysylltwch â:

Cysylltwch â Gweinyddwr y Rhaglen Sylfaen ynghylch y Rhaglen Hyfforddi Sylfaen. Ms Sharon Goodwin, Ffôn: 029 2184 6231.

Addysgu VTS i Feddygon Teulu

Cynhelir addysgu VTS i Feddygon Teulu bob dydd Mercher rhwng 2.00pm a 5.00pm ar 2il Lawr, Adeilad Cochrane, YAC. Mae'n agored i bob Hyfforddai Meddygon Teulu ar Gynllun Caerdydd.

Am fanylion pellach e-bostiwch Cardiff.GPTraining@wales.nhs.uk

Diwrnodau Astudio IMT/CMT Rhanbarthol

Cynhelir 5 diwrnod astudio bob blwyddyn ym mhob un o'r 4 rhanbarth. Gall hyfforddeion fynychu mewn unrhyw ranbarth os nad yw dyddiad eu rhanbarth lleol yn addas.
Rhanbarth 1: Hywel Dda a Bae Abertawe
Rhanbarth 2: Gogledd Cymru
Rhanbarth 3: Cwm Taf Morgannwg
Rhanbarth 4: Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan

Mae'r addysgu hwn yn orfodol a disgwylir i bob Hyfforddai IMT/CMT fynychu. 

Rhaglen CME Seiciatreg

Cynhelir hon bob dydd Gwener yng Nghanolfan Academaidd Routledge, Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Dilynwch ni