Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlu

Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis gweithio i BIP Caerdydd a'r Fro a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni. 

Blwyddyn Sylfaen 1

Mae cyfnod Sefydlu Blwyddyn Sylfaen 1 yn orfodol ac mae'n bedwar diwrnod llawn. Mae sefydlu'n ffordd anffurfiol o gwrdd â meddygon Iau eraill, a bydd yn rhoi cyflwyniad i chi i fywyd ysbyty a chyfle i gwrdd â staff Ôl-raddedig ac Ysbyty cyn i chi ddechrau gweithio. Mae'r cyfnod sefydlu yn ymdrin â nifer o bynciau a fydd yn cael sylw manylach yn ddiweddarach yn ystod rhaglen addysgu orfodol BS1.

Blwyddyn Sylfaen 2 a Sefydlu Hyfforddiant Arbenigol

Bydd Blwyddyn Sylfaen 2 a Sefydlu Hyfforddiant Arbenigol ar un safle ar gyfer yr holl hyfforddeion sy'n cychwyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r cyfnod sefydlu hwn yn orfodol ac mae'n cymryd hanner diwrnod. Mae bore sefydlu yn ffordd anffurfiol o gwrdd â meddygon iau eraill; byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â staff Ôl-raddedig ac Ysbyty cyn i chi ddechrau gweithio.

Mae'r bore Sefydlu yn cynnwys nifer o siaradwyr o wahanol adrannau sy'n rhoi gwybodaeth bwysig i chi.

Sefydlu Chwefror

Mae hwn yn gyfnod sefydlu hanner diwrnod, gyda'r gyfadran yn arwain. Mae'n gyfle i leisio unrhyw bryderon a gofyn cwestiynau. Rhoddir gwybodaeth gyffredinol am yr ysbyty i chi adeg y cyfnod sefydlu hwn.

Sefydlu Adrannol

Dylai pob arbenigedd ddarparu sesiwn sefydlu adrannol sy'n ymdrin â materion a pholisïau adrannol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa gyfarwyddiaeth.

Meddygon Locwm a Meddygon Allan o Sync

Mae'r Adran Addysg Feddygol yn argymell bod meddygon locwm a meddygon allan o sync yn ymweld â'u Canolfan Addysg leol i gael gwybodaeth berthnasol.

Dilynwch ni