Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif

 

Beth yw Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif?

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn ymwneud â helpu pobl i wella'u hiechyd a'u lles trwy roi'r adnoddau iddynt ddewis ffordd iach o fyw, fel rhoi'r gorau i ysmygu, bwyta'n iachach a gwneud mwy o ymarfer corff. 

Mae egwyddor Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn syml. Nid yw'n ymwneud ag ychwanegu at eich baich gwaith. Yn hytrach, mae'n cydnabod bod staff yn y sectorau iechyd, cyhoeddus a gwirfoddol yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd gannoedd o weithiau bob dydd a bod y gallu gennym i ddefnyddio'r cysylltiadau hynny i helpu newid ymddygiadau pobl er gwell.

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

Mae staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro mewn sefyllfa ddelfrydol i hybu iechyd.

Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau partner i helpu staff i adnabod eu rôl hanfodol o ran gwella iechyd ac amddiffyn iechyd. 

  • I sefydliadau, mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn golygu rhoi i staff yr arweinyddiaeth, yr amgylchedd, yr hyfforddiant a'r wybodaeth y mae arnynt eu hangen i gyflwyno dulliau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. 
  • I staff, mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn golygu'r gallu a'r hyder i gyflwyno negeseuon am ffordd iach o fyw, i helpu annog pobl i newid eu hymddygiad ac i'w cyfeirio at wasanaethau lleol sy'n gallu'u cefnogi. 
  • I unigolion, mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn golygu ceisio cymorth a chymryd camau i wella'u ffordd eu hunain o fyw trwy fwyta'n dda, cynnal pwysau iach, yfed alcohol yn synhwyrol, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, peidio ag ysmygu a gofalu am eu lles a'u hiechyd meddwl.

 

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn canolbwyntio ar faterion ffordd o fyw y mae mynd i'r afael â nhw'n gallu gwneud y gwelliant mwyaf i iechyd unigolyn:

 

 


Sut i Wneud i Bob Cyswllt Gyfrif 

Nid yw Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn ymwneud â dod yn arbenigwr ar ddewisiadau ffordd o fyw, plagio pobl neu ddweud wrthynt beth i'w wneud, na darparu cymorth parhaus. Yn hytrach, yr hyn sy'n allweddol yw defnyddio cyfleoedd sy'n codi yn eich sgyrsiau gyda defnyddwyr gwasanaeth i'w symbylu i wneud newid ac yna rhoi gwybodaeth iddynt am sut i fynd ati.

Gall y dull syml canlynol gael ei ddefnyddio wrth gael sgwrs fer am iechyd:

  • Gofynnwch i unigolion am eu ffordd o fyw a'r newidiadau yr hoffent eu gwneud, pan fydd cyfle priodol i wneud hynny 
  • Cynghorwch yn briodol ar y materion ffordd o fyw sy'n cael eu codi
  • Gweithredwch trwy gynnig gwybodaeth, cyfeiriadau neu atgyfeirio unigolion at y cymorth y mae arnynt ei angen.

Rydym yn sylweddoli nad yw'n hawdd i bawb godi cwestiynau am ymddygiadau ffordd o fyw a all gael effaith ar les person. Fodd bynnag, gwyddom hefyd nad oes ots gan y mwyafrif o gleifion gael eu holi am eu ffordd o fyw ac, yn wir, mae llawer ohonynt yn disgwyl i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ofyn y mathau hyn o gwestiynau.

 

Hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn rhoi hyfforddiant ar Wneud i Bob Cyswllt Gyfrif, sy'n cynnig cyngor ymarferol ar sut i fanteisio ar gyfleoedd mewn sgwrs, a sut a ble i gyfeirio pobl er mwyn eu helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hymddygiad.

Rydym yn gwybod bod mwyafrif y staff eisoes yn cael y mathau hyn o sgyrsiau yn rheolaidd. Fodd bynnag, bydd hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn sicrhau bod dull cyson ar draws y Bwrdd Iechyd Prifysgol a sefydliadau partner.

Mae dwy lefel o hyfforddiant ar gael i aelodau staff y BIP:

 

Lefel

Addas ar gyfer

Mwy o wybodaeth

Lefel Un

 

 

• Trosolwg sylfaenol o sgwrs iach, cyflwyniad i'r sgiliau ymarferol, a gwybodaeth sylfaenol am bynciau ffordd o fyw.

• Unrhyw un sy'n dod i gysylltiad rheolaidd â phobl ac sydd eisiau gwybod mwy am Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC).

• Y rhai sydd eisoes yn cael sgyrsiau iach ond sydd eisiau sesiwn ddiweddaru.

• Cyn-ddysgu cyn mynychu hyfforddiant wyneb yn wyneb lefel 2.

Mae e-ddysgu ar gyfer lefel un ar gael drwy’r ddolen hon ac mae’n cymryd tua 40 munud i’w gwblhau: Public Health Network

Lefel Dau

 

 

• Trosolwg byr o'r pynciau ffordd o fyw.

• Mae'r ffocws ar ddatblygu sgiliau a thechnegau cyfweld ysgogol.

• Archwilio sut bydd y technegau'n cael eu cymhwyso'n ymarferol mewn gwahanol sefyllfaoedd.

• Yn addas iawn (ond heb fod yn gyfyngedig) i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n dymuno cefnogi pobl i newid eu hymddygiad.

• Gofyniad i gael y sylfaen wybodaeth o bynciau ffordd o fyw h.y. cwrs e-ddysgu, neu hyfforddiant MECC lefel 1.

Mae'r hyfforddiant wyneb yn wyneb hwn yn cymryd 2.5 awr.

 

I gael rhagor o wybodaeth a dyddiadau ar gyfer y sesiynau hyfforddi nesaf, cysylltwch ag Elin.evans5@wales.nhs.uk

Dilynwch ni