Neidio i'r prif gynnwy

Uned Lipidau

Croeso i'r Uned Lipidau yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae'r uned yn darparu amrywiaeth o brofion a gofal i'r rheini â cholesterol uchel os nad yw triniaeth cyffuriau na newid diet wedi gweithio iddynt, sef pobl sy'n dioddef o hypercolesterolamia teuluol (HT) fel arfer.

Anhwylder a etifeddir yw HT sy'n achosi colesterol uchel o enedigaeth. Fe'i hachosir gan newid mewn un genyn sy'n rheoli colesterol yn y gwaed.

Gall fod colesterol uchel ar ddioddefwyr er bod ganddynt ffordd o fyw sy'n berffaith iachus. Os na chaiff ei drin, gall arwain at glefyd y galon sy'n dechrau'n gynnar mewn cleifion mor ifanc â 30. 

Ar hyn o bryd, mae'r uned yn gofalu am 18 o gleifion afferesis,  ac mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:

  • Afferesis lipoprotein
  • Ymchwiliadau ac asesiad clinigol biocemeg - trowch at ein taflen wybodaeth
  • Profion genetig HT yn rhan o wasanaeth profion rhaeadru HT Cymru 
  • Clinig ymyriad a ffordd o fyw sy'n cael ei arwain gan nyrsys, yn rhan o'r clinig lipidau yn Llandochau a arweinir gan ymgynghorydd.

Sefydlwyd yr uned yn wreiddiol ym 1990 a symudodd i gyfleuster a godwyd yn bwrpasol yn 2009. Ceir yno bedwar gwely achos dydd, a ddefnyddir yn bennaf at afferesis lipoprotein, derbynfa i gleifion ac ystafell glinig.

 

 

 

 

 

 

Dilynwch ni