Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Porffyria Caerdydd

Mae Gwasanaeth Porffyria Caerdydd yn arbenigo mewn diagnosio a thrin y porffyrias yn y DU. Mae'r Gwasanaeth yn darparu gwasanaeth porffyria cynhwysfawr ar gyfer clinigwyr a'u cleifion trwy gynnig: 

  • Cyngor clinigol amlddisgyblaethol
  • Diagnosis labordy arferol
  • Dadansoddiad mwtaniad genetig
  • Gwybodaeth am ddiogelwch cyffuriau (ar y cyd â Gwasanaeth Gwybodaeth Meddyginiaethau Cymru, WMIC)
  • Cwnsela genetig (ar y cyd â Geneteg Feddygol) 

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cychwyn ac yn cymryd rhan mewn ymchwil i'r porffyrias ac mae ganddo gysylltiadau cydweithredol cryf gyda'n cydweithwyr yn Ewrop.


Beth rydyn ni'n ei gynnig

Y claf:

  • Clinigau cleifion allanol (Amlddisgyblaethol).
  • Gofal ar y cyd gan ymgynghorydd porffyria clinigol ac arbenigwr gwallau cynhenid metaboledd (Dr M Badminton), pediatregydd ymgynghorol (Dr G Shortland) a dermatolegydd ymgynghorol (Dr James Powell).
  • Cyngor a chefnogaeth ar fyw gyda porffyria.

Ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol: 

  • Cyngor ar reoli cleifion mewnol yr amheuir bod ganddynt borffyria
  • Cyngor ar reoli cleifion â porffyria sy'n cael eu trin am gyflyrau meddygol eraill
  • Gwybodaeth gyfoes am ddiogelwch cyffuriau yn y porffyrias acíwt (ar y cyd â Gwasanaeth Gwybodaeth Meddyginiaethau Cymru)
  • Gwasanaeth Porffyria Acíwt Cenedlaethol (NAPS).
Dilynwch ni