Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan

Mae Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS) yn sefydliad y GIG, sy’n darparu profion diagnostig cynhwysfawr a gwasanaethau clinigol gan gynnwys cwnsela genetig i bobl sy’n byw gyda chanser a chyflyrau genetig prin, neu sy’n pryderu yn eu cylch. 

Gwasanaethau Geneteg Clinigol 

Darperir gwasanaethau Geneteg Clinigol gan dîm o feddygon geneteg glinigol, cwnselwyr genetig, cydlynwyr hanes teulu a gweinyddwyr. Arbenigedd cleifion allanol yn bennaf yw hwn, a gwelir cleifion mewn clinigau cleifion allanol ledled Cymru a gallant gael mynediad at ymgynghoriadau dros y ffôn a’n rhithwir. Gwelir oedolion a phlant hefyd yn ystod arhosiad claf mewnol yn yr ysbyty lle bo'n briodol. 

Mae prif weithgareddau geneteg glinigol yn cynnwys: 

  • Casglu gwybodaeth am hanes teulu a llunio diagram coeden deulu
  • Asesiad clinigol trwy hanes, archwiliad ac ymchwiliadau perthnasol, gan   gynnwys profion genetig lle bo angen
  • Asesiad risg genetig ar gyfer cleifion ac aelodau o'r teulu
  • Cwnsela genetig: y broses o integreiddio’r wybodaeth uchod a’i chyfleu i deuluoedd er mwyn caniatáu’r dewisiadau a’r penderfyniadau gwybodus gorau
  • Trafod opsiynau posibl a allai fod o gymorth, gan gynnwys profion cyn-geni, profion rhagfynegi, therapïau penodol neu gynlluniau rheoli, cysylltu â grwpiau cymorth a darparu gwybodaeth feddygol fanylach 

Mae’r Gwasanaeth Geneteg Clinigol yn chwarae rhan bwysig mewn cysylltiad â gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, a hefyd yn addysg staff proffesiynol eraill ar draws y GIG yng Nghymru. 

Gwasanaethau Labordy Genetig 

Mae Labordy Genomeg Cymru Gyfan yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau profi genetig ar gyfer clefydau prin (llinell genhedlu) a chanser i boblogaeth Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae ein gwasanaethau diagnostig wedi’u hachredu gan UKAS (ISO15189:2012), ac mae’r labordy’n cymryd rhan mewn cynlluniau asesu ansawdd allanol UK NEQAS, GENQA ac EMQN i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau rhagorol i’n cleifion. 

Mae'r labordy yn darparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys: 

  1. Clefyd prin - profion cyn-geni ar gyfer beichiogrwydd mewn perygl ac USS ffetws annormal, profion ôl-enedigol ar gyfer cyflyrau fel oedi datblygiadol ac anffrwythlondeb, profion penodol ar gyfer amrywiaeth o syndromau ac anhwylderau genynnau sengl, profion rhagfynegol lle mae mwtaniad teuluol yn hysbys, profion cludwr, sgrinio genynnau, a phrofion post-mortem ar gyfer camesgoriadau. Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth genom cyfan cyflym ar gyfer babanod sâl. 
      

  1. Profion canser ar gyfer profion diagnostig a phrognostig ar gyfer malaenedd hematolegol (gan gynnwys monitro cimeriaeth ar ôl trawsblannu) a thiwmorau solet, profion canser teuluol a meddygaeth fanwl (haeniad prognostig, monitro ymateb i driniaeth a gwyliadwriaeth). Mae'r gwasanaeth yn darparu ystod o brofion genetig ar gyfer treialon clinigol amrywiol. 

Am ein cyfres gyfredol lawn o brofion a ddarparwn, ewch i'n gwefan

Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid academaidd a diwydiant i helpu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau sydd ar flaen y gad, yn berthnasol ac o ansawdd uchel.    

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n gwasanaeth cwnsela geneteg clinigol fel bod cleifion yn cael cyngor addas cyn ac ar ôl profion. I gael rhagor o wybodaeth am naill ai Geneteg Glinigol neu ein gwasanaethau Labordy, ewch i wefan Genomeg Meddygol Cymru Gyfan.  

 

 

Dilynwch ni