Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd y Crymangelloedd, Thalasaemia ac Anemia Etifeddol

Celloedd gwaed

Mae Gwasanaeth Anemia Etifeddol De Cymru yn darparu gofal arbenigol a chynhwysfawr i gleifion ag anemia etifeddol. Dyma rai o'r mathau o anemia sy'n gallu bod yn etifeddol:

 

  • anhwylder y crymangelloedd 
  • thalasaemia
  • anemia sideroblastic
  • anemia Fanconi Cynhenid
  • anemia Dyserythropoietig Cynhenid (CDA)
  • anemia Diamond-Blackfan (DBA)
  • syndrom Shwachman-Diamond (SDS)
  • diffyg pyrwfad cinas
  • xerocytosis /spherocytosis etifeddol

 

Mae'r Tîm Amlddisgyblaethol yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Prifysgolion Lleol i sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaeth sy'n seiliedig ar ansawdd ac sy'n briodol ar gyfer eu hanghenion.  Nod y Gwasanaeth yw cynnig gofal o ansawdd uchel, gan ystyried anghenion corfforol, cymdeithasol, seicolegol ac ysbrydol ein cleifion. Ein nod yw hyrwyddo iechyd a lles ein cleifion a'u helpu i fyw bywydau annibynnol gyda gwell iechyd.

Mae'r tîm anemia etifeddol pediatrig (plant) yn darparu gofal sy'n dechrau adeg geni ac yn parhau nes bod cleifion yn cael eu trosglwyddo i'r tîm oedolion tua 16 oed.

 


Beth yw Anemia Etifeddol?

Grŵp o anhwylderau sy'n effeithio ar hemoglobin mewn celloedd gwaed coch yw anemia etifeddol.

Mae anemia yn gyflwr lle mae nifer y celloedd gwaed coch neu faint o hemoglobin mewn celloedd gwaed coch yn llai na'r arfer.

Haemoglobin yw'r sylwedd sy'n gwneud gwaed yn goch. Ei brif bwrpas yw cario ocsigen o amgylch y corff. Os nad yw'r corff yn cael digon o ocsigen, mae symptomau amrywiol yn digwydd. Mae'r rhain yn cynnwys blinder, gwendid a diffyg egni.

Anhwylderau etifeddol y hemoglobin mewn celloedd gwaed coch yw clefyd y crymangelloedd a thalasaemia. Maent yn perthyn i grŵp o anhwylderau celloedd coch o'r enw anhwylderau hemoglobin, neu hemoglobinopathi, a dyma’r mathau mwyaf cyffredin ohonynt. Ceir mathau mwy prin o anhwylder hemoglobin a allai rannu'r un symptomau neu beidio ac yn aml mae ganddynt batrwm gwahanol o etifeddiaeth i'r mathau cyffredin.

Mae pobl sy'n cael eu geni ag anhwylder y crymangelloedd neu anhwylder beta thalasaemia yn dod yn symptomatig ar wahanol adegau ar ôl eu geni. Mae anhwylder alpha thalasaemia yn effeithio ar ddatblygiad ffetws a bydd yn bresennol adeg geni.

Nid yw'r anhwylderau hyn yn heintus; maent fel arfer yn cael eu hetifeddu gan y ddau riant, a byddant wedi trosglwyddo genyn crymangell neu thalasaemia i'w plentyn. Gellir etifeddu mathau prin o'r ddau, thalasaemia yn arbennig, gan un rhiant yn unig, neu gall ddigwydd yn sgil newidiadau newydd mewn genynnau hemoglobin (a elwir yn 'de novo') yn ystod datblygiad embryonig. Ceir mathau cyffredin a phrin ymhlith poblogaeth Cymru. Mae'n bosibl bod yn gludwr anhwylder y crymangelloedd neu  thalasaemia a thrwy hynny fod â risg uwch o gael plentyn â'r anhwylder, heb unrhyw symptomau o'r anhwylder eich hun. Mae hyn yn golygu eich bod ‘yn gludwr' neu 'fod gennych y nodwedd’.

 


Beth rydyn ni’n ei gynnig

  • gwybodaeth, cyngor, cymorth a gofal i bobl sy'n byw gyda chlefyd y crymangelloedd, thalasaemia a chyflyrau cysylltiedig.
  • canllawiau a chymorth i rieni neu ofalwyr ar gyfer y broses o roi diagnosis, cynllunio gofal a chysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
  • cynlluniau gofal iechyd ar gyfer plant ac oedolion ifanc mewn addysg feithrin, ysgol neu addysg bellach.
  • trosglwyddo o glinigau pediatrig i glinigau oedolion.
  • gwybodaeth am brosesau triniaeth rheolaidd pellach.
  • cyfeirio at sefydliadau ynghylch budd-daliadau a chyngor ar dai.
  • digwyddiadau cymunedol mewn cydweithrediad ag asiantaethau gwirfoddol i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau celloedd coch.
  • sesiynau hyfforddi ar gyfer gwahanol asiantaethau, gweithwyr iechyd proffesiynol, teuluoedd a sefydliadau i hysbysu ac addysgu am ofalu am bobl â hemoglobinopathi.
  • rydym yn casglu data yn lleol ac yn genedlaethol i'n helpu i wella gwasanaethau.

 

 

 

 

 

 

 

Dilynwch ni