Neidio i'r prif gynnwy

Thrombosis a gafwyd yn yr ysbyty

Thrombosis a gafwyd yn yr ysbyty

Mae thrombosis gwythiennol yn geulad gwaed sy'n datblygu yng ngwythiennau'r corff. Mae'r rhain yn digwydd yn fwyaf cyffredin yn y goes, pan gânt eu galw'n thrombosis gwythiennau dwfn (DVT). Weithiau, gall ceulad dorri i ffwrdd a theithio i'r ysgyfaint, a gelwir hyn yn emboledd ysgyfeiniol (PE).

Thrombosis a gafwyd yn yr ysbyty (HAT)

Mae oedolion (dros 18 oed) mewn mwy o berygl o ddatblygu ceuladau gwaed pan gânt eu derbyn i'r ysbyty. Mae'r risg hon yn isel, ond gellir ei chynyddu mewn rhai unigolion (e.e. oedran hŷn, cleifion â chanser, pobl sydd wedi dioddef VTE o'r blaen neu sydd â hanes teuluol o VTE). Mae hefyd yn amrywio yn ôl y rheswm dros dderbyn. Mae'n bwysig bod risg unigolyn o thrombosis yn cael ei asesu ar y cyd â'r rheswm dros ei dderbyn.

Atal HAT

Pethau y gellir eu gwneud i leihau'r risg o HAT cyn i chi ddod i'r ysbyty

  • Byw bywyd iach ac egnïol 
  • Rhoi'r gorau i ysmygu
  • Yfed digon o ddŵr

Pethau a wneir pan gewch eich derbyn i'r ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIP)

Dylai pob claf sy'n oedolyn gael ei asesu am ei risg o thrombosis, mewn cysylltiad â'r rheswm dros ei dderbyn. Mae offer asesu risg y gellir eu defnyddio i gynorthwyo clinigwyr mewn gwahanol feysydd arbenigedd.

Os ystyrir bod y claf mewn perygl o gael thrombosis, caiff ei asesu am y ffordd orau i geisio lleihau'r risg honno. Gallai hyn fod ar ffurf pigiadau gwrthgeulydd (Heparin Pwysau Moleciwlaidd Isel) neu hosanau gwrth-emboledd sy'n hyrwyddo cylchrediad da. Mewn llawfeddygaeth orthopedig mae rhai cleifion yn derbyn tabledi gwrthgeulydd (rivaroxaban neu dabigatran) yn dilyn eu llawdriniaeth.

Os yw'ch derbyniad wedi'i gynllunio, yna bydd y dull o thromboprophylacsis (atal thrombosis) yn cael ei drafod gyda chi cyn y derbyniad.

Mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i sicrhau bod pob claf yn derbyn thromboprophylacsis priodol. Cadeirir y Grŵp Thrombosis a Gwrthgeulo gan Dr Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol.

Dywed Dr Shortland; "Rhan hanfodol o atal Thrombosis yw Addysg Cleifion. Efallai y bydd cleifion sy'n cael eu derbyn i'r Ysbyty mewn perygl o ddatblygu Thrombosis tra yn yr Ysbyty (Thrombosis a gafwyd yn yr Ysbyty, HAT). Mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i leihau risg claf o ddatblygu HAT, ac mae ganddo offer Asesu Risg a ddefnyddir i nodi risg y claf o ddatblygu HAT.

"Mae cleifion hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau eu risg, er enghraifft bydd bwyta diet iach a chytbwys a chadw'n actif cyn eu derbyn yn helpu i leihau'r risg o ddatblygu ceulad gwaed tra yn yr Ysbyty. Mae'r daflen isod yn cynnwys mwy o wybodaeth ar leihau'r risg cyn cael eich derbyn i'r ysbyty, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth hefyd ar wefan Lifeblood.

"Gallwch hefyd siarad â'ch tîm meddygol am eich risg. Mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i atal Thrombosis a gafwyd yn yr Ysbyty."


Ceir mwy o wybodaeth yn nhaflen gwybodaeth BIP, neu ar wefan Life Blood, www.thrombosis-charity.org.uk.

Dilynwch ni