Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Un i Un y Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth

Mae'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth yn cynnig cymorth i oedolion sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth a'r bobl sy'n eu cefnogi. Os ydych chi wedi cael diagnosis o awtistiaeth neu os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr oedolyn ag awtistiaeth a hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol a hoffech atgyfeirio rhywun, defnyddiwch y ffurflen atgyfeirio hon.

Mae'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth yn dilyn dull fesul cam at ofal. I rai pobl, bydd gwybodaeth a chyngor a ddarperir dros y ffôn neu drwy'r e-bost yn bodloni eu hanghenion. I bobl eraill, gallai apwyntiad unigol fod yn briodol.

Bydd yr apwyntiadau hyn yn cael eu cynnig o'n canolfan ym Mhenarth. Yn yr apwyntiad cychwynnol, byddwn yn gofyn cwestiynau i gael gwybod beth yw anghenion person. Gall canlyniad yr apwyntiad hwnnw fod fel a ganlyn: argymhelliad i droi at wasanaethau eraill; cymorth gan wasanaethau eraill a chysylltiadau â nhw; dod i grwpiau'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth; neu gallai rhywfaint o gymorth gael ei gynnig i'r person am gyfnod penodol.

Nid yw'n bosibl, nac yn briodol, i'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth ddarparu'r holl gymorth y gall fod ei angen i oedolion ag awtistiaeth. Caiff y Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth ei ariannu'n benodol i roi cymorth i'r bobl hynny nad ydynt yn bodloni meini prawf gwasanaethau eraill, er enghraifft gwasanaethau iechyd meddwl neu wasanaethau anableddau dysgu. Os caiff rhywun gefnogaeth gan wasanaethau eraill, gall y Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth gynnig ymgynghori a gweithio ar y cyd, lle y bo'n briodol.  

Os oes gan bobl unrhyw gwestiynau ynghylch p'un ai a yw atgyfeiriad yn briodol, byddai'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth yn hapus iawn i drafod hyn, felly cysylltwch â ni. 

Dilynwch ni