Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion Iechyd

Sut mae cael at eich cofnodion iechyd eich hun

Er mwyn cael at eich cofnodion iechyd eich hun bydd angen ichi gysylltu â'n Hadran Cofnodion Iechyd. 


Eich gwybodaeth, Eich hawliau, Beth sydd angen ichi ei wybod

Eglurwn yma pam mae gwybodaeth yn cael ei chasglu amdanoch ac ym mha ffyrdd y gallai'r wybodaeth hon gael ei defnyddio. Dywedwn wrthych hefyd am eich hawl i weld eich cofnodion iechyd, a sut mae cael atynt.

Eich Gwybodaeth Eich Hawliau / Your Information Your Rights

Cael at Gofnodion Iechyd sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar ein poster dwyieithog.

Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill hefyd os oes angen. I ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth. 

 

Pam Mae'r GIG yn Casglu Gwybodaeth Amdanoch Chi?

Mae'r GIG yn casglu gwybodaeth am resymau amrywiol, sy'n cael eu hegluro'n fanylach drwy'r dolenni canlynol:

Os hoffech wybod rhagor am y ffordd y defnyddiwn eich gwybodaeth, neu os nad ydych, am unrhyw reswm, yn dymuno i'ch gwybodaeth gael ei defnyddio yn unrhyw un o'r ffyrdd a ddisgrifir yma, siaradwch â'r gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu amdanoch. Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth neu 'Warcheidwad Caldicott', sef Aelod Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn defnyddio gwybodaeth adnabyddadwy cleifion yn y modd cywir.

 

Manylion Cyswllt

Y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Llawr Cyntaf, Monmouth House
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Ffôn: 029 2074 6677

 

Dilynwch ni