Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Mamolaeth


Atgyfeiriad Beichiogrwydd i’r Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

Diweddariad ynghylch pwysau ar wasanaethau mamolaeth

Rhifau ffon defnyddiol

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Ystafelloedd Geni: 029 2074 8565/029 2074 2679/029 2074 2686 Ystafelloedd Ysgogi Geni: 02921846185
Clinig Cyn Geni UHW:  02920 742288 Uned Arweinir gan Fydwragedd: 02920 745196
Clinig Cyn Geni UHL: 029 20716103 Uned Newydd-anedig: 02920 742680
Meddygaeth y Ffeyws: 029 2074 2279 Uned Asesu Obstetreg: 02920 744658
Swyddfa Bydwragedd Cymunedol: 02920 745030 Ward ar ol Geni: 02920 744436/743343

Gwybodaeth Beichiogrwydd

Mae rhagor o wybodaeth am feichiogrwydd cynnar ar gael yma.

Yn ystod yr apwyntiad mamolaeth, bydd y fydwraig yn trafod eich beichiogrwydd ac yn rhoi caniatâd i chi gael sganiau uwchsain a 
phrofion gwaed. Er mwyn sicrhau eich bod chi’n deall y dewisiadau ar gyfer profion sgrinio, cliciwch y ddolen am profion sgrinio cyn geni ac gwyliwch y fideo ar brofion sgrinio ar gyfer syndrom Down, Edwards a Patau.

Cliciwuch yma
 ar gyfer apwyntiad yn ystod beichiogrwydd. 

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am famolaeth yma gyda:

NHS Livewell
Sgrinio Cyn Geni Cymru
Pob Plentyn – Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth

Ar ol Genedigaeth

Mynd Adre ar ol Genedigaeth

Cliciwch yma am gwybodaeth ar ol Genedigath.

Ystyriaethau Profiad Geni

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein Ystyriaethau Profiad Geni.

Canllawiau ar Ymweld â’r Gwasanaethau Mamolaeth

Yn dilyn llacio cyfyngiadau COVID a mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ddiweddar, rydym yn falch o allu adfer ymweliadau ymhellach mewn gwasanaethau mamolaeth ar draws BIP Caerdydd a’r Fro.

Uned Asesu Obstetreg

Gallwch ddod â'ch partner geni neu bartner cymorth i'r apwyntiadau.

Mae’r ardal aros yn fach felly gofynnwn i bartneriaid geni/partneriaid cymorth i ystyried aros y tu allan nes y cewch eich galw i gael eich asesu.

Sganiau ac apwyntiadau cyn geni

Gallwch ddod â'ch partner geni neu bartner cymorth i bob apwyntiad yn ystod y cyfnod cynenedigol. 

Ar gyfer unrhyw apwyntiadau sgan yn y clinig cyn geni neu'r adran radioleg, gofynnwn yn garedig i chi ddod ag un person yn unig gyda chi ac ni fyddem yn annog unrhyw blant i ddod i'r archwiliad meddygol hwn lle bynnag y bo modd.

I brynu lluniau sgan yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gallwch brynu tocynnau gydag arian parod neu gerdyn gan ddefnyddio'r ciosg talu wrth ddesg y dderbynfa. Yna gellir rhoi’r tocynnau i'r clinigwr sy'n cynnal eich sgan.   

Y tâl safonol ar gyfer lluniau sgan yw £5 am ddau lun. Os hoffech chi brynu mwy, gallwch brynu mwy o docynnau.  

Os ydych yn mynychu apwyntiad sgan yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, gallwch brynu tocyn yn y ciosg gan ddefnyddio pum darn £1. 

Gofal cynenedigol

Gall menywod a phobl sy'n geni ddod ag un partner geni/partner cymorth i bob apwyntiad yn ystod y cyfnod cynenedigol.

Ar gyfer apwyntiadau sgan mewn Clinig Cyn-geni neu Adran Radioleg, rydym yn argymell yn gryf nad ydych yn dod â phlant lle bynnag y bo modd.

Gall menywod a phobl sy’n geni sy’n dod fel claf allanol neu glaf mewnol i brysuro’r geni gael cwmni un partner geni/partner cymorth rhwng 9am a 9pm.

Yr enedigaeth

Gallwch gael dau bartner geni/partner cymorth gyda chi ar gyfer yr holl enedigaeth.

Mae hyn yn cynnwys yr uned obstetreg a'r uned dan arweuniad bydwragedd. 

Os oes rhaid prysuro'r geni, gall eich partner geni neu bartner cymorth gyda chi yn yr ardaloedd hyn.

Theatr, T2 ac uned adfer

Gallwch gael un partner geni neu bartner cymorth gyda chi yn yr ardaloedd hyn.

Ward Cynenedigol ac Ôl-enedigol

Gallwch gael un partner geni/partner cymorth gyda chi ar y ward rhwng 9am a 9pm.

Cynhelir ymweliadau hefyd rhwng 2pm – 4pm a 6pm – 8pm ar gyfer uchafswm o 2 ymwelydd i bob gwely.

Gall brodyr a chwiorydd ddod i’r ward yn ystod oriau ymweld, fodd bynnag ni fydd plant eraill yn gallu mynychu’r ward yn sgil mesurau atal a rheoli heintiau.

Y broses ymweld

Mae'n bwysig iawn cymryd pob cam posibl i atal haint rhag lledu yn yr ysbyty. Gyda'i gilydd, gall cleifion ac ymwelwyr helpu'r staff i leihau risg heintio neu groes-heintio.

Peidiwch â mynychu i ymweld os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19
 

Cofiwch wneud y canlynol:

  • Golchi eich dwylo cyn mynd at erchwyn y gwely a chyn gadael y ward
  • Os hoffech ymweld â chlaf arall ar y ward, rhaid ichi olchi eich dwylo cyn ac ar ôl gwneud hynny 
  • Ni chaiff cleifion ac ymwelwyr eistedd ar welyau cleifion eraill 
  • Golchi eich dwylo ar ôl bod i'r tŷ bach
  • Golchi eich dwylo cyn ac ar ôl prydau bwyd; bydd y nyrs yn eich helpu os oes angen cymorth arnoch 
  • Os daw bwyd i mewn, sicrhewch ei fod wedi'i labelu a'i storio'n gywir
  • Os daw bwyd i mewn, ni fydd modd ei ailgynhesu yng nghegin y ward oherwydd risg gwenwyn bwyd: os oes rhaid dod â bwyd i mewn, holwch y staff am gyngor
  • Er mwyn i'r staff cymhennu lanhau'n drwyadl o gwmpas ardal eich gwely, dewch ag eitemau hanfodol yn unig i mewn

Dod â Bwyd i mewn i'r Ysbyty

Mae Gwasanaethau Arlwyo'r BIP yn ymdrechu'n ddiwyd i sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer anghenion ein holl gleifion. Mae'n bwysig inni gael eich cydweithrediad ar y materion canlynol, am nad ydym am effeithio'n andwyol ar iechyd unrhyw glaf oherwydd bwyd a ddaeth i mewn iddo ei fwyta. 

Peidiwch â dod ag unrhyw rai o'r bwydydd hyn i mewn, os gwelwch yn dda:

  • Cig amrwd
  • Dofednod amrwd
  • Pysgod amrwd
  • Wyau amrwd
  • Llaeth
  • Paté
  • Hufen ffres
  • Cawsiau meddal
Dilynwch ni