Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Deintyddol

Mae practisau deintyddol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn parhau i ddilyn mesurau rheoli heintiau COVID-19 a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru. Mae'r mesurau hyn er diogelwch cleifion, staff a'r gymuned ehangach ond maent yn cael effaith ar nifer y cleifion mewn lleoliad deintyddol.

Mae'n ofynnol i ddeintyddion flaenoriaethu mynediad at driniaeth ar sail angen clinigol a risg.

Ar gyfer cleifion sy’n rhan o Bractis Deintyddol Cyffredinol, pan fydd eich apwyntiadau archwilio arferol ar gael, bydd eich deintydd yn cysylltu â chi.

Os nad oes gennych Ddeintydd y GIG, gall cleifion yng Nghaerdydd a'r Fro ymuno â'r Rhestr Aros Ganolog. I gael mynediad at y ffurflen hon, cliciwch yma.

Dylech gysylltu â'ch deintydd yn ystod eu horiau agor arferol os oes angen gofal deintyddol brys arnoch, ar gyfer triniaeth frys y tu allan i oriau, gellir dod o hyd i wybodaeth o dan adran y Gwasanaeth Deintyddol Brys (EDS).

 
Dilynwch ni