Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil a Datblygu

Mae Cymru yn arwain y ffordd mewn ystod o welliannau gwasanaeth clinigol arobryn i gleifion sydd ag FH a chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer ymchwil a datblygu.

Pwyllgor Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Rhaeadru FH Cymru

Mae'r grŵp hwn yn goruchwylio a chynghori ar agweddau ar ymchwil a datblygu yn y Gwasanaeth Rhaeadru Profion FH. Mae'r pwyllgor hwn yn gyfrifol am hwyluso a chydlynu prosiectau ymchwil a datblygu o ansawdd uchel.


Ein Prosiectau

Mae ystod o brosiectau ymchwil a datblygu'n cael eu cynnal gan amrywiaeth o bobl, gan gynnwys nyrsys a meddygon, gwyddonwyr clinigol, gwyddonwyr cymdeithasol a genetegwyr.

Mae gennym ddiddordeb mewn canfod:

  • Sut gallwn adnabod FH yn well mewn teuluoedd
  • Sut mae cleifion yn profi FH
  • P'un a yw cyffuriau newydd yn effeithiol ar gyfer trin FH ac a yw cleifion yn gallu eu goddef
  • Barn cleifion am ein gwasanaeth
     

Prosiectau Presennol

Research Dr

 

"Rydym yn ceisio cael gwybod mwy am sut mae genynnau'n dylanwadu ar lefelau colesterol cleifion FH"

 

Cliciwch ar y ddolen i gael gwybod mwy am ein hymchwil a sut gallwch gymryd rhan...

 

 

 


Astudiaeth CESD - Cyfansymiwr

Totaliser

 

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwirfoddoli ar gyfer y prosiect hwn. Mae'r ymateb wedi bod yn rhagorol, gyda mwy na 670 o gleifion yn cymryd rhan.

Mae'r samplau olaf wedi cael eu hanfon i'r labordy arbenigol i'w dadansoddi, a gobeithiwn adrodd ar y canfyddiadau yn gynnar yn 2017.

I gael gwybod mwy am yr astudiaeth CESD, darllenwch Daflen Wybodaeth yr Astudiaeth CESD neu ewch i adran Gwaith Ymchwil Parhaus y wefan.

Sylwch fod y broses recriwtio ar gyfer y prosiect hwn wedi gorffen bellach.

 

 



Newyddion am Waith Ymchwil

Kate H - Heart UK Awards  

Mae Kate Haralambos newydd ennill 'Gwobr Ymchwilydd Ifanc y Flwyddyn' yng nghyfarfod 2014 HEART UK a gynhaliwyd yn Warwig.

 

Cyflwynodd Kate ei hymchwil ar waith peilot ar amrywiolion FH o arwyddocâd ansicr. Enillodd wobr yn flaenorol am waith ar wella'r meini prawf sgorio i arwain y broses o ddewis cleifion ar gyfer profion DNA.

 

 

 

 


Cylchlythyr

Mae rhifyn Ymchwil a Datblygu diweddar Cylchlythyr Fforwm Teuluoedd FH Cymru Gyfan ar gael bellach i'w lawrlwytho.

 

Dilynwch ni