Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cleifion Allanol

Clinigau Cleifion Allanol

 

Lleoliad Sesiynau

Clinig Clwyfau Cyffredinol

Ysbyty Brenhinol Caerdydd, y Brif Adran Cleifion Allanol

Dydd Mawrth (08.30 – 12.30)

Clinig Clwyfau Cymhleth

Ysbyty Athrofaol Cymru, Ystafell 3, y Brif Adran Cleifion Allanol 

Dydd Mercher (13.30 – 16.30)

Mae'r mathau o glwyfau sy'n cael eu hatgyfeirio yn cynnwys:

  • Briwiau pwyso Categori 3 a 4 
  • Briwiau coes lle mae triniaeth safonol wedi methu gwella'r clwyfau hyn ymhen 8 - 12 wythnos 
  • Clwyfau acíwt e.e. Hidradenitis Suppurativa, Sinws Blewog, clwyfau abdomenol sy'n ymagor
  • Clwyfau llawfeddygol sy'n gwrthod gwella neu sy'n gwaethygu
  • Clwyfau lle tybir bod malaenedd
  • Clwyfau heb ddiagnosis terfynol
  • Clwyfau malaen a ffyngaidd

Bob blwyddyn cawn nifer o atgyfeiriadau o'r tu allan i'r ardal. Dim ond gan Nyrsys Arbenigol a Phodiatregwyr sy'n atgyfeirio o fewn BIP Caerdydd a'r Fro y derbynnir atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth Gwella Clwyfau Cleifion Allanol. Fodd bynnag, gellir derbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu ac Ymgynghorwyr o'r tu mewn i BIP Caerdydd a'r Fro ac o'r tu allan i'r ardal.

Dylid gwneud atgyfeiriadau i Wasanaeth Cleifion Allanol Caerdydd gan ddefnyddio ein Ffurflen Atgyfeirio Gwella Clwyfau. Trowch hefyd at y Canllawiau ar lenwi'r Ffurflen Atgyfeirio.

Yn ogystal â'r clinigau uchod, cynigiwn hefyd wasanaeth gwella clwyfau ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae hwn yn cynnwys Clinig Traed Diabetig amlddisgyblaeth sy'n cael ei gynnal bob bore Llun yn Richmond House (wrth ymyl Ysbyty Brenhinol Gwent) yng Nghasnewydd a Chlinig Clwyfau Cyffredinol a gynhelir ym mhrif adran cleifion allanol Ysbyty Gwynllyw bob prynhawn Llun.

Cefnogir ein holl glinigau gan Adran Ffotograffiaeth Feddygol y Bwrdd Iechyd. Bu hyn yn fodd inni ddatblygu llyfrgell fawr o ddelweddau clinigol o glwyfau i'w defnyddio'n adnodd clinigol yn ogystal ag ar gyfer ystod eang o gyhoeddiadau a chymwysiadau addysgu.

Am fod WHRU yn cymryd rhan weithgar mewn ymchwil, weithiau efallai bydd gofyn i gleifion sy'n dod i'r clinigau gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil clinigol neu sesiwn addysgu sy'n cynnwys yr ymwelwyr/myfyrwyr cenedlaethol a rhyngwladol lawer y mae'r Uned yn eu croesawu. Sicrheir y cleifion nad oes unrhyw rwymedigaeth arnynt i gymryd rhan yn y naill beth na'r llall ac, fel bob amser, ceisir cydsyniad llawn.

Yn dilyn pob ymweliad gan glaf allanol, anfonir llythyr at y Meddyg Teulu yn amlinellu'r driniaeth a gafodd y claf.