Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleusterau a Chymwysiadau

Mae'r cyfleusterau gwella clwyfau gystal â'r cyfleusterau masnachol gorau o'r math hwn sydd ar gael ac maent yn cynnwys:

  • Uned treialon clinigol
  • Ystafelloedd ymgynghori
  • Lle addysgu a hyfforddi pwrpasol
  • Labordai gwyddonol
  • Systemau Gwybodaeth ar gyfer cofnodi a storio data a chanlyniadau treialon

Oherwydd lleoliad yr Uned Ymchwil i Wella Clwyfau (WHRU) ym Mhrifysgol Caerdydd, ac oherwydd ei pherthynas agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro, mae modd cael at gyfleusterau arbenigol:

  • Microbioleg feddygol
  • Histopatholeg
  • Biocemeg
  • Biobeirianneg
  • Ffiseg Feddygol
  • Delweddu, gan gynnwys atseiniol magnetig (MRI) ac uwchsonograffiaeth ddwbl
  • Labordai meithrin meinweoedd

Cymwysiadau

Rydym yn helpu darparwyr gwasanaeth a chwmnïau gofal clwyfau i werthuso eu cynhyrchion, dyfeisiau a gwasanaethau meddyginiaethol cyfredol ac, os yw'n briodol, cyflwyno cynhyrchion, dyfeisiau, modelau a thechnegau meddyginiaethol newydd. Gwasgarir cymwysiadau masnachol ar draws dau sector:

  • Masnachol: gweithgynhyrchwyr cynhyrchion meddyginiaethol, dyfeisiau, uwch-dechnoleg a chynhyrchion sylfaenol
  • Darparwyr gofal iechyd: Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau'r GIG a Chartrefi Nyrsio

Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o ymchwil yn y maes gwella clwyfau a gallwn roi cymorth wedi'i neilltuo i ddatblygu dogfennaeth sy'n berthynol i astudiaeth, a gweithdrefnau rheoleiddio yn y DU. 

Rydym wedi magu enw da byd-eang yn gyfleuster clinigol dibynadwy a sicr. Fe'n harchwiliwyd yn llwyddiannus gan yr FDA (Asiantaeth Bwyd a Chyffuriau'r Unol Daleithiau) a'r MDA (yr Asiantaeth Dyfeisiau Meddygaeth).