Neidio i'r prif gynnwy

Addysg y Gwasanaeth Clwyfau

Mae WHRU yn darparu cyrsiau addysgiadol ffurfiol drwy Gwrs Diploma a Meistr mewn Gwella Clwyfau a Chyweirio Meinweoedd.

Fe'i cyflwynwyd yn wreiddiol ym 1996 yn Ddiploma Ôl-raddedig, ac mae'r cwrs wedi denu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o feysydd nyrsio, meddygaeth, fferylliaeth, podiatreg a'r diwydiant fferyllol. Cynigia'r cynnig i astudio o bell ochr yn ochr â grŵp rhyngwladol o weithwyr proffesiynol o wledydd fel Iwerddon, yr Iseldiroedd, yr Eidal, Saudi Arabia, De Affrica a Seland Newydd.

Roedd man cychwyn unigryw i'r cwrs hwn mewn gwella clwyfau, oherwydd prin oedd y lleill o'i fath. Ym 1999 estynnwyd y cwrs i ddyfarniad uwch gan arwain at radd Meistr yn y Gwyddorau sydd, ynghyd â datblygiadau parhaus technoleg y we, wedi cynyddu ei boblogrwydd gyda myfyrwyr o'r Unol Daleithiau, Canada a'r Dwyrain Pell.




Mae WHRU hefyd yn darparu modiwlau dysgu o bell lefel gradd Hyfywedd Meinwe. Mae modiwlau felly'n cynnwys y rheini sy'n gysylltiedig â Briwiau Traed Diabetig, Briwiau Coes a Briwiau Pwyso. Cynigiwn hefyd raglenni ymchwil MD a PhD. 

Yn ogystal â hyn, mae WHRU yn darparu hyfforddiant addysgiadol 'sy'n canolbwyntio ar y claf' i fusnesau masnachol. Cynllunnir y cyrsiau byr hyn (3 a 5 diwrnod) i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant fferyllol yn datblygu cynhyrchion gorchudd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ond nad ydynt yn darparu 'gofal ymarferol' yn rheolaidd. Pwysleisir arfer sy'n seiliedig ar ymchwil a disgwylir i gynrychiolwyr gyflwyno adolygiadau llenyddiaeth i'w trafod yn ogystal â mewnbwn gwyddonol, diwrnodau clinigol, astudiaethau achos ac adolygiadau treial clinigol.

Yn ogystal â chynnig lleoliadau Cydran a Ddewisir gan y Myfyriwr i fyfyrwyr meddygol yn ail a thrydedd flwyddyn eu rhaglen, cefnogwn gyflenwi'r cwricwlwm drwy ddarlithiau arbenigol ym Mlwyddyn 4.  

Gellir trefnu ymweliadau ag WHRU i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cenedlaethol a rhyngwladol sy'n arbenigo mewn gofal clwyfau. Mae'n hanfodol i gyfranogwyr allu cyfleu amcanion eu hymweliad er mwyn trefnu'r safle clinigol priodol. Bydd disgwyl i unigolion ateb holiadur cyn eu hymweliad, ac yn dilyn eu hymweliad.