Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r GDC

Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (CDS) yn darparu gofal deintyddol ar gyfer rhai grwpiau cleifion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg nad ydynt yn gallu cael mynediad at ofal deintyddol cyffredinol gydag Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol. 

Mae'r gwasanaeth ar waith ledled Caerdydd a'r Fro, mewn clinigau sefydlog a symudol. Darparwn wasanaeth cartref hefyd i bobl nad allant ddod i glinig.

Mae ein clinigau'n wahanol i ddeintyddfeydd y stryd fawr, am ein bod yn gweld cleifion ar sail atgyfeiriad yn unig, sy'n sicrhau y cânt eu trin gan yr aelod o staff a hyfforddwyd yn fwyaf priodol ac yn y clinig gorau sy'n addas i'w hanghenion.

Yn ogystal, rydym yn cynnal amrywiaeth o fentrau gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft gofal ataliol yn y gymuned trwy ein rhaglen genedlaethol ‘Cynllun Gwên’ (D2S), sy’n targedu ysgolion mewn ardaloedd â’r lefelau uchaf o glefydau deintyddol.  Mae hyn yn cynnwys rhaglen taenu fflworid a brwsio dannedd mewn ysgolion i blant hyd at 5 oed.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu ein prosiect Cartrefi Gofal ‘Gwên am Byth’ (GAB), lle mae cyngor a hyfforddiant ar iechyd y geg yn cael eu darparu i gleifion, staff gofal a staff nyrsio, gyda’r nod o wella gwybodaeth, sgiliau ac iechyd y geg preswylwyr yn gyffredinol. Cynhelir yr hyfforddiant yn fewnol ac mae’n cynnwys hyfforddiant iechyd y geg ‘craidd’ a hyfforddiant ‘hyrwyddwr’.

 

Dilynwch ni