Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all elwa ar ein gofal?

Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn darparu gwasanaeth deintyddol ar gyfer rhai grwpiau cleifion nad ydynt yn gallu cael mynediad at ymarferydd deintyddol cyffredinol. Mae’r garfan hon yn cynnwys: 

 

  • Oedolion a phlant ag un neu fwy o’r canlynol: anabledd corfforol, anabledd dysgu, cyflyrau meddygol cymhleth, nam synhwyraidd difrifol, cyflyrau iechyd meddwl difrifol, pryder deintyddol neu ffobia sy’n atal y person rhag defnyddio gwasanaethau deintyddol cyffredinol 

  • Pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghaerdydd a’r Fro 

  • Plant sydd o dan ofal yr awdurdod lleol 

  • Pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal neu nyrsio 

  • Pobl sy’n gaeth i’w cartrefi 

  • Oedolion sy’n profi digartrefedd 

  • Carcharorion yng Ngharchar EM Caerdydd

 

Dilynwch ni