Neidio i'r prif gynnwy

Clod a Phryderon i'r GDC

Ceisiwn ddarparu'r gofal gorau posibl i'n holl gleifion. Fodd bynnag, pe byddech am godi pryder neu wneud cwyn am y gofal a gawsoch yn y GDC, dylech wneud hynny ar lafar gydag un o'n haelodau staff cyn gynted ag sy'n bosibl, a gwnawn ein gorau glas i unioni'r broblem. Os na fyddwn yn gallu datrys y broblem, ac os hoffech uwchgyfeirio eich pryder, cysylltwch â'r Adran Bryderon a byddant yn hapus i drafod eich pryderon gyda chi.

Mae'r Swyddfa Bryderon ar agor rhwng 9am a 5pm (ddydd Llun i ddydd Gwener). Ffoniwch y rhifau ffôn canlynol yn ystod oriau swyddfa os hoffech siarad ag aelod o'r Tîm Pryderon.

  • 029 218 36318 
  • 029 218 36319
  • 029 218 36323 
  • 029 218 36340 

Gallwch hefyd lenwi ein Ffurflen Bryderon, e-bostio'r tîm yn concerns@wales.nhs.uk neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:

Y Prif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro,
Ffordd Maes y Coed,
Llanisien
Caerdydd CF14 4HH.

I'r un graddau, hoffem gael gwybod os ydym yn gwneud pethau'n dda. Os ydych yn fodlon iawn ar y driniaeth a gawsoch gan aelod penodol o staff, rhowch wybod i ni! 

Cyflwynwch Glod

Cewch gyflwyno clod yn ysgrifenedig i'r:

Prif Weithredwr
Pencadlys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC)
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW.

neu mewn e-bost i news@wales.nhs.uk

Byddwch yn cael llythyr neu e-bost mewn ymateb i'ch clod, a rhannir pob clod gyda'r ardaloedd dan sylw ac aelodau unigol o staff. 

 

Dilynwch ni