Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (CDS) yn cynnig y gwasanaethau canlynol i gleifion sy’n bodloni meini prawf y CDS:
Triniaeth ddeintyddol i oedolion ag anghenion ychwanegol sy’n bodloni’r gofynion deintyddiaeth gofal arbennig a phlant sydd angen gofal deintyddol pediatrig arbenigol.
Gwasanaeth Cartref i’r rhai nad ydynt yn gallu mynd i glinig.
Gwasanaeth deintyddol symudol (yn yr ysgol ac mewn clinig).
Rhaglen sgrinio deintyddol yn yr ysgol i atal pydredd dannedd, ‘Cynllun Gwên’ (D2S).
Triniaeth ddeintyddol o dan dawelydd ymwybodol.
Gwella Iechyd y Geg i Bobl sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal, trwy gyflwyno rhaglen ‘Gwên am Byth’ (GAB).
Gofal deintyddol i oedolion sy’n profi digartrefedd.
Gofal deintyddol i Garchar EM Caerdydd.
System dolen glywed ar gael ym mhob un o’n clinigau.
Darparu sesiynau triniaeth ddeintyddol brys ar rai o’n safleoedd, mae angen brysbennu a threfnu ymlaen llaw drwy’r Llinell Ddeintyddol Frys (0300 10 20 247).
Mae gwasanaethau dehongli drwy’r Llinell Iaith hefyd ar gael mewn rhai clinigau.