Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio Iechyd ar gyfer Ceiswyr Lloches

Traeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu mynediad i asesiad iechyd, gwasanaeth sgrinio iechyd a gwasanaeth gofal sylfaenol cyfyngedig i unigolion sy’n ceisio lloches, sydd ar gamau cychwynnol proses asesu’r Swyddfa Gartref, ac wedi’u cefnogi o dan adran 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.  Unwaith y caiff unigolyn gymorth adran 95 (o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999) gan y Swyddfa Gartref, caiff ei symud i lety mwy parhaol, a bydd yn gymwys i gofrestru gyda phractis meddyg teulu. Ar gamau penodol o’r daith at loches, gallai unigolion wynebu amddifadrwydd ac achosion o newid llety yn rheolaidd, a allai ei gwneud yn anodd iddynt gofrestru â phractis meddyg teulu. Nod CAVHIS yw cefnogi’r unigolion hyn gyda’u hanghenion iechyd yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.

Dilynwch ni