Neidio i'r prif gynnwy

Mwy am AAC

Cyfathrebu Ychwanegol ac Amgen (AAC) yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiol ddulliau cyfathrebu a all ‘ychwanegu’ at leferydd ac a ddefnyddir i ddatrys problemau gyda lleferydd cyffredin.

AAC technoleg isel a dim technoleg

Nid yw llawer o ddulliau AAC yn defnyddio unrhyw dechnoleg neu maent yn defnyddio technoleg syml. Ymhlith yr enghreifftiau mae pwyntio, arwyddo, defnyddio pensil a phapur neu fyrddau geiriau a siartiau symbolau. Mae cefnogi pobl i ddefnyddio'r mathau hyn o ddulliau AAC yn dod o fewn cylch gwaith y gwasanaethau lleferydd a therapi “siarad” lleol yng Nghymru.

AAC cymhleth uwch-dechnoleg

Mae cymhorthion AAC cymhleth neu uwch-dechnoleg yn rhan o gylch gorchwyl yr hwb AAC arbenigol. Darperir hwb AAC Cymru gan y Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig (EATS).

Gellir diffinio'r rhain fel cymhorthion AAC sy'n gofyn am ddefnyddio dyfais raglenadwy ac maent yn cynnwys offer cyfarwydd fel dyfeisiau symudol, tabledi a gliniaduron yn ogystal â systemau pwrpasol.

Gall system AAC gymhleth gynnwys mowntiau arbennig a/neu fodd i'w gyrchu, fel technoleg syllu â'r llygaid neu switshis.

Dolenni defnyddiol i gael mwy o wybodaeth

Mae technoleg yn newid yn gyflym. Os ydych chi eisiau gwybod beth sy'n newydd, pwy all elwa o AAC uwch-dechnoleg gymhleth, mae'r elusen Communication Matters yn lle da i ddechrau.

Mae gwefannau defnyddiol eraill yn cynnwys:

  • PrAACtical AAC - gwybodaeth ac awgrymiadau gan ymarferwyr AAC a theuluoedd
Dilynwch ni