Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Ar-lein

Torri'n Rhydd Ar-lein

Mae Torri'n Rhydd Ar-lein yn rhaglen triniaeth ac adfer ddigidol ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Fe'i cefnogir gan becyn cymorth atal ailwaelu wedi'i seilio ar ap ffôn clyfar, sydd ar gael ar Android neu Apple.

Gellir defnyddio'r rhaglen ar gyfer 39 o sylweddau, gan gynnwys anterthau cyfreithlon (legal highs), meddyginiaethau cyfnewid a meddyginiaethau ar bresgripsiwn sy'n cael eu camddefnyddio, a gellir ei chyflwyno ar gyfrifiadur gyda chymorth gweithwyr allweddol a mentoriaid cymheiriaid neu ei defnyddio'n annibynnol gan ddefnyddwyr gwasanaethau.


Effaith:

Mae sawl astudiaeth a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn dangos bod Torri'n Rhydd Ar-lein yn arwain at:

  • Ostyngiad mewn defnyddio sylweddau a dibyniaeth ar sylweddau.
  • Gwell iechyd meddwl, ansawdd bywyd a chynnydd o ran adfer.
  • Mwy o wydnwch a hunaneffeithiolrwydd.
  • Gwell sgiliau cyfrifiadurol a chynhwysiant digidol.

Mae Darparwyr Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau fel CGL wedi dweud bod defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio Torri'n Rhydd Ar-lein yn ogystal â thriniaeth safonol:

  • 50% yn fwy tebygol o adael gwasanaethau'n llwyddiannus.
  • 60% yn llai tebygol o ailgyflwyno i wasanaethau.

Buddion i Ddefnyddwyr Gwasanaethau:

  • Mae defnyddwyr gwasanaethau'n gallu cael mynediad at ymyriadau adfer wedi'u seilio ar dystiolaeth bob awr o'r dydd a'r nos.
  • Gall defnyddwyr gwasanaethau ddewis llwybr wedi'i deilwra yn dibynnu ar yr hyn maen nhw eisiau cymorth gydag ef. Gallant ddewis rhwng alcohol yn unig, cyffuriau yn unig, neu alcohol a chyffuriau.
  • Mae'r rhaglen yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r adnoddau y mae eu hangen ar ddefnyddwyr gwasanaethau i gyflawni adferiad tymor hir, ac fe all fynd i'r afael ag achosion sylfaenol eu camddefnydd o sylweddau a'u ffordd o fyw gysylltiedig.
  • Mae'r rhaglen yn addas i bob lefel o lythrennedd a phob arddull ddysgu.
  • Gellir ystyried bod y rhaglen yn caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaeth reoli eu hadferiad eu hunain, ar yr un pryd â rhoi canllawiau gam wrth gam i'r rhai sy'n eu cefnogi.
  • Mae Torri'n Rhydd Ar-lein yn mesur elfennau cyfalaf adfer a'u dangos yn weledol.
  • Mae'n helpu defnyddwyr gwasanaethau i ddatblygu sgiliau TG hanfodol, gan felly wella eu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, addysg a hyfforddiant.

I gael gwybod mwy, ewch i'r wefan Torri'n Rhydd Ar-lein neu gofynnwch i aelod o staff yn ystod eich ymweliad nesaf ag EDAS.

 

 

Dilynwch ni