Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Ar-lein

Rhoddir isod restr o ffurflenni y gallwch ddisgwyl eu gweld yn eich apwyntiad EDAS. Rydym wedi gwneud ein gorau i leihau'r gwaith papur gymaint â phosibl er mwyn i hyn fod yn llai o rwystr i unrhyw un a hoffai gael cymorth ac i osgoi dyblygu. Ond, gobeithiwn eich bod yn deall bod angen i ni gadw cofnod o'ch amgylchiadau a sut gallwn eich cynorthwyo er mwyn sicrhau bod y llwybrau rhwng gwasanaethau'n ddi-dor.

Mae croeso i chi lenwi copi cyn eich apwyntiad a'i anfon at taith@cgl.org.uk neu ei argraffu a dod ag ef gyda chi. Gofynnwn i bawb roi atebion gonest i'r cwestiynau fel y gellir trefnu'r cymorth iawn a rhoi'r wybodaeth fwyaf priodol i chi.


Amdanoch Chi

Mae'r ffurflen hon yn hunanesboniadol. Gofynnwn i chi ei llenwi cyn yr apwyntiad, pan fyddwch yn cyrraedd fel arfer, er mwyn i chi roi gwybodaeth gryno i ni amdanoch eich hun. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i ni gael syniad o beth sy'n digwydd yn eich bywyd erbyn i ni eistedd gyda chi i drafod eich opsiynau, ac felly gallwn dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar yr hyn rydych eisiau ei gael o wasanaethau a'r opsiynau sydd ar gael i chi.

Ffurflen Cyn-asesu EDAS


 

Archwiliad

Mae'r ddogfen hon, a alwyd yn Offeryn Adnabod Anhwylder Defnyddio Alcohol gynt, yn cael ei defnyddio ledled Cymru a Lloegr i bennu faint mae unigolyn yn ei yfed. Gofynnwn i bawb sy'n yfed alcohol lenwi'r ffurflen hon er mwyn i ni gael syniad cliriach o ba lefel o gymorth a allai fod yn angenrheidiol. 

Offeryn Archwilio 


SADQ

Mae'r ddogfen hon, a elwir hefyd yn Holiadur Difrifoldeb Dibyniaeth ar Alcohol, yn cael ei defnyddio'n helaeth. Gofynnwn yn benodol i unrhyw un a hoffai gael ymyrraeth feddygol ar gyfer ei ddefnydd o alcohol lenwi'r ffurflen hon, gan ei bod yn rhoi syniad gwell i ni o ba gymorth a fyddai'n fwyaf priodol. 

Yn ystod yr apwyntiad, bydd y gweithiwr yn cwblhau adroddiad byr gyda chi i sicrhau eich bod yn cael eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol i fodloni'ch anghenion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau / pryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 0300 300 7000.

SADQ E-DAS


 

 

 

Dilynwch ni