Neidio i'r prif gynnwy

Ôl-ofal a Chymorth Adfer

Mae Footsteps to Recovery yn wasanaeth gofal trwy'r broses ac ôl-ofal unigryw ar gyfer camddefnyddio sylweddau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Dyma'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n bartneriaeth rhwng Solas, New Link Wales a Recovery Cymru.

Mae'r gwasanaeth ar gael ar draws Caerdydd a'r Fro ac mae'n cynnwys cymorth gyda'r nos ac ar y penwythnos.

Symud Ymlaen yn Fy Adferiad a Mwy – Rhaglen ôl-ofal strwythuredig ddwys am 6 wythnos yw hon ar gyfer pobl sy'n sefydlog yn eu hadferiad ac sy'n gweithio tuag at ymataliad. Mae'r rhaglen yn cynnwys gwaith grŵp ac un-i-un, ac mae'n canolbwyntio ar bynciau sy'n gysylltiedig ag adfer fel cyfathrebu, perthnasoedd, cydbwysedd ffordd o fyw a sgiliau bywyd. Mae grŵp therapi a gyflwynir gan gwnselwyr cymwysedig yn rhan o'r rhaglen hefyd.

Cymorth Llai Strwythuredig – Trwy'r ymagwedd 'dewis a dethol' hyblyg, gall pobl ffurfio eu cymorth ôl-ofal adfer eu hunain a'i deilwra i'w hanghenion unigol. Rydym yn cynnig ystod eang o ymyriadau, gan gynnwys adferiad SMART, grwpiau hunangymorth, hyfforddiant adfer, cymorth adfer dros y ffôn, atal ailwaelu a Grŵp Cymheiriaid Symud Ymlaen yn Fy Adferiad.

Gwirfoddoli – I bobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli, mae dwy raglen ar gael i ddewis o'u plith. Mae'r rhaglen MILE wedi'i bwriadu ar gyfer unigolion sy'n sefydlog yn eu hadferiad ac sydd â phrofiad bywyd go iawn o gamddefnyddio sylweddau. Ar ôl cael hyfforddiant, gallant ddefnyddio eu profiadau bywyd gwerthfawr i gynorthwyo pobl eraill.

Mae'r rhaglen Camau Newydd wedi'i bwriadu ar gyfer unigolion sy'n sefydlog yn eu hadferiad ac a hoffai wirfoddoli mewn prosiectau cymunedol eraill fel cynlluniau cadwraeth ac elusennau.

Os hoffech gymryd rhan yn y rhaglen Footsteps neu atgyfeirio rhywun arall, ffoniwch 02920 388717 neu anfonwch neges e-bost at enquiries@footstepstorecovery.co.uk

 

Dilynwch ni