Mae EDAS (neu Fynediad at Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol, i roi ei enw llawn iddo) yn bwynt mynediad unigol ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo bod ganddo broblem gydag unrhyw fath o sylwedd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae EDAS yn darparu mynediad syml ac effeithiol at yr ystod lawn o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
P'un a ydych chi erioed wedi defnyddio gwasanaethau o'r blaen neu'n gyfarwydd â nhw, bydd staff EDAS yn rhoi apwyntiad rhad ac am ddim a chyfrinachol i chi. Byddwn yn defnyddio'r amser hwn i drafod chi eich hun, eich amgylchiadau a beth y gallech ddymuno ei gael o wasanaethau. Gyda'n gilydd, gallwn benderfynu ar y llwybrau gorau i fodloni'ch anghenion a chymryd y cam cyntaf ar eich taith.
Ansicr p'un a yw'r gwasanaeth hwn yn addas i chi? Ffoniwch ni neu galwch heibio i gyfarfod ag un o'n gweithwyr cyfeillgar i drafod beth sydd ar gael.