Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Nyrsys Ardal

Mae'r Gwasanaeth Nyrsys Ardal yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Cyflogir Nyrsys Ardal gan y BIP a gweithiant yn agos gyda meddygon teulu a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eraill yn y gymuned leol.  Mae ganddynt hefyd berthynas waith agos â'r sector gwirfoddol.

Nod y gwasanaeth yw darparu gofal nyrsio medrus i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, gan nyrsys cymunedol a hyfforddwyd yn arbennig, a rhoi cymorth i ofalwyr. Darperir y gwasanaeth dros y cyfnod 24 awr, 365 o ddiwrnodau'r flwyddyn, ac mae ar gael ar hyn o bryd i bob unigolyn dros 16 oed. 

Mae gan y gwasanaeth Nyrsys Ardal gysylltiadau arbenigol hefyd â'r holl dimau sy'n gweithio yn y gymuned, gan gynnwys y Tîm Ymateb Acíwt, sy'n darparu cynllun rhyddhau'n gynnar o'r ysbyty neu wasanaeth atal derbyn i'r ysbyty. Mae hefyd Gofal Clwyfau Arbenigol Gwasanaethau Cynghori ar Ymataliad ar gael.

Mae Nyrsys Ardal yn gweithio ledled cymuned Caerdydd a'r Fro, a hynny'n bennaf mewn Clinigau Cymunedol, ac ambell un ar safleoedd meddygon teulu.

Ffoniwch y llinell gyswllt 24 awr ar gyfer staff Nyrsys Ardal ar 029 2044 4501.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth Nyrsys Ardal yn ein Taflen Wybodaeth i Gleifion sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Hysbysiad Pwysig ynghylch newidiadau i'r ganolfan gyswllt Nyrsys Ardal (y Ganolfan Gyfathrebu) 

Yn ddiweddar, buom yn cynnal archwiliad o'r galwadau sy'n dod i mewn i'r Ganolfan Gyfathrebu, gan nodi bod rhyw 30% o'r galwadau (tua 30,000 o alwadau'r flwyddyn) yn gofyn a ydy'r Nyrs Ardal yn galw a faint o'r gloch.  Er bydd y Nyrs Ardal yn ceisio galw ar y diwrnod y gofynnwyd amdano, mae angen rhoi blaenoriaeth i alwadau brys, e.e. i gleifion sy'n cael gofal lliniarol, ac felly ni allwn nodi fel rheol faint o'r gloch y bydd y Nyrs Ardal yn galw.

O ganlyniad i'r uchod, bydd neges ateb y Ganolfan Gyfathrebu fel a ganlyn: 

"Croeso i wasanaeth archebu Nyrsys Ardal Caerdydd a'r Fro. Sylwch fod y gwasanaeth Nyrsys Ardal ar gyfer cleifion sy'n gaeth i'r tŷ yn unig, ac y gall ymweliadau gan nyrs yn ystod y dydd ddigwydd unrhyw bryd rhwng 8am ac 8pm, ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i'r oriau hyn, bydd y gwasanaeth Nyrsys Ardal yn ymdrin â galwadau brys yn unig. Os ydych yn ffonio i holi faint o'r gloch y bydd y Nyrs Ardal yn galw, neu a yw'n galw o gwbl, ni all eich meddygfa deulu na'r Ganolfan Gyswllt roi'r wybodaeth hon i chi. 

Sicrhewch fod gennych eich holl fanylion personol chi, neu fanylion personol y claf, wrth law, a'r rheswm dros eich galwad. Mae eich galwad yn cael ei throsglwyddo i weithredwr a fydd yn eich helpu gyda'ch ymholiad; sylwch fod pob galwad yn cael ei recordio er mwyn eich diogelwch."

Sylwch y negeseuon allweddol isod:

  • Mae ymweliadau nyrsys ardal ar gyfer cleifion sy'n gaeth i'r tŷ yn unig; nid yw 'cleifion sy'n gaeth i'r tŷ' yn cynnwys y rheini heb gludiant.
  • Ni ellir rhoi amseroedd galwadau (oni bai mewn amgylchiadau penodol neu oherwydd ymyriadau lle mae amser yn holl bwysig, ac mae'r rhain yn cael eu cytuno ymlaen llaw).
  • Nid yw'r ganolfan gyfathrebu, na meddygfeydd teulu ychwaith, yn gallu nodi diwrnod ac amser ymweliadau Nyrsys Ardal. 
  • Mae staff dydd y gwasanaeth Nyrsys Ardal yn gweithio ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am ac 8pm.
Dilynwch ni