Neidio i'r prif gynnwy

Caffis Dementia

Mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu Caffis Dementia yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd a Llyfrgell Treganna.

Bwriedir i'r caffis fod yn fan diogel i'r rhai sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr, eu ffrindiau, eu teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol ..... gyda the a chacennau! 

Mae ganddyn nhw hefyd gyflenwad o lyfrau sy'n ymwneud â dementia, llyfrau Lluniau i'w Rhannu, llyfrau lluniau hanes lleol a chyfoeth o wybodaeth gyfeirio gan sefydliadau fel y Gymdeithas Alzheimer's, Gofalwyr Cymru, DEEP, Heneiddio'n Dda yng Nghymru, ac ati, sy'n cael ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd. Gweler y posteri isod am ragor o wybodaeth.

Mae llawer mwy wedi cael eu sefydlu bellach, gan gynnwys yn Hyb Grangetown, y Tyllgoed a Threlái. Dewch o hyd i'ch un agosaf yma.

Dilynwch ni