Neidio i'r prif gynnwy

Hyrwyddwyr Dementia

Gwaith Hyrwyddwyr Dementia yw atgoffa cydweithwyr o anghenion pobl sy'n byw gyda dementia, a'n hannog ni i gyd i feddwl am gamau syml a newidiadau bach i fodloni'r anghenion hynny'n well.

Mae Hyrwyddwr Dementia yn ceisio:

  • Bod yn ddadleuwr neu'n 'gynhyrfydd' o blaid dementia
  • Herio a dylanwadu
  • Cyfrannu at ddatblygu a gwerthuso gwasanaethau
  • Bod yn wybodus ac yn brofiadol ym maes gofal dementia
  • Prif ffrydio ac integreiddio gofal dementia
  • Creu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Dementia

Mae gweithredoedd Hyrwyddwr Dementia yn cynnwys:

  • Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer cleifion, gofalwyr a theuluoedd mewn perthynas â gofal dementia
  • Cydlynu a chyfeirio
  • Darparu addysg am ddementia ac ymwybyddiaeth o ddementia
  • Arwain y cynllun Glöyn Byw ac asesiadau anghenion REACH cysylltiedig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Arwain trwy esiampl
  • Defnyddio arfer gorau y mae tystiolaeth dda ohono

Hyrwyddwyr Dementia yn ôl Bwrdd Clinigol

Os hoffech wybod mwy am ddod yn Hyrwyddwr Dementia, cysylltwch â Hyrwyddwr Dementia eich Bwrdd Clinigol.

Bwrdd Clinigol

Hyrwyddwyr Dementia'r Bwrdd Clinigol

Plant a Menywod

Claire Thorrington

Diagnosteg Glinigol a Therapiwteg

Chris Sampson

Deintyddol

Chandri Joshi

Meddygaeth

Dr Swapna Fernandez

Candy Dodwell

Iechyd Meddwl

Dr Sabarigirivasan Muthukrishnan

Mark Doherty

Dr Ceri Evans

Mark Jones

Gofal Sylfaenol a Gofal Canolraddol

Denise Shanahan a'r Holl Gyfarwyddwyr Cymunedol

Gwasanaethau Arbenigol

Carys Fox

Gwasanaethau Llawfeddygol

Heather Mahoney

 

Dilynwch ni