Neidio i'r prif gynnwy

Apêl Twiddlemuffs ar gyfer Cleifion Dementia

Ar Wardiau C7 ac C6 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae gennym ni lawer o gleifion, gwrywaidd a benywaidd, sydd â dementia. 

Yn aml, mae'r cleifion hyn yn diflasu'n llwyr ac yn chwilio am "rywbeth i'w wneud" â'u dwylo. Hoffem roi Twiddlemuff i bob un. Mae'r rhain yn benodol i'r unigolyn ac ni ellir eu hailddefnyddio.

 

Rydym yn apelio at bawb sy'n gwau, neu unrhyw un sy'n adnabod rhywun sy'n gwau, a allai ein helpu i wneud y rhain. Does dim rhaid i chi wnïo'r "pethau i chwarae â nhw", ond os gallwch chi wneud hynny yn ogystal â gwau'r myffiau, byddai hynny'n wych.

Byddem hefyd yn ddiolchgar iawn am gael rhoddion o wlân, ffabrig, botymau, sipiau a gleiniau ac ati ar gyfer y myffiau.

Gellir anfon unrhyw roddion a Twiddlemuffs gorffenedig at Ward C7, Ysbyty Athrofaol Cymru, neu gallwch gysylltu â Sue Day ar 029 2074 2181 i drefnu casgliad.

Nid oes terfyn amser ar gyfer cwblhau'r myffiau oherwydd bod y prosiect hwn yn un parhaus, a byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth y gallech ei gynnig.

 

Dilynwch ni