Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Dementia

Amcangyfrifir bod tua 850,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda dementia, sy'n gallu effeithio ar ddynion a menywod. Nid yw dementia'n rhan naturiol o heneiddio ac nid yw'n gyflwr sy'n effeithio ar bobl hŷn yn unig, er bod cysylltiadau cryf rhwng henaint a diagnosis o ddementia. Mae pobl dros 65 oed yn y perygl mwyaf o ddatblygu'r clefyd; ar hyn o bryd, mae un o bob 14 o bobl yn yr ystod oedran hon yn byw gyda dementia, ond mae dros 40,000 o bobl iau na 65 oed yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda dementia.

Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn disgrifio dementia fel:

“Set o symptomau a allai gynnwys colli'r cof ac anawsterau wrth feddwl, datrys problemau neu ddefnyddio iaith. Mae'r newidiadau hyn yn aml yn fach i ddechrau, ond i rywun sydd â dementia maen nhw wedi dod yn ddigon difrifol i effeithio ar fywyd pob dydd. Gallai hwyliau neu ymddygiad rhywun sydd â dementia newid hefyd.”                        

Mae dementia'n cael ei achosi gan glefydau'r ymennydd ac mae profiad pob unigolyn yn unigryw. Mae gwahanol fathau o ddementia a fydd yn effeithio ar unigolion yn wahanol. Gall amgylchoedd unigolyn a sut mae pobl eraill yn ymateb iddo gael effaith fawr ar ba mor dda y mae'n byw gyda dementia. 

Mae dementia yn golygu mwy na cholli'r cof; gallai symptomau cyffredin eraill gynnwys:

  • Cof dydd i ddydd - anhawster cofio pethau a ddigwyddodd yn ddiweddar
  • Canolbwyntio, cynllunio neu drefnu - trafferth gwneud penderfyniadau, datrys problemau neu gyflawni dilyniant o dasgau (e.e. coginio pryd o fwyd)
  • Iaith - trafferth dilyn sgwrs neu ddod o hyd i'r gair iawn am rywbeth
  • Sgiliau gweledol-ofodol - problemau wrth farnu pellter (e.e. ar risiau) a gweld gwrthrychau mewn tri dimensiwn
  • Cyfeiriadedd - colli trywydd ar y diwrnod neu'r dyddiad, neu ddrysu ynghylch ble maen nhw 
  • Gorbryder / ailadrodd cwestiynau / camu ar hyd ystafell
  • Teimlo'n isel ac iselder
  • Teimlo'n aflonydd neu'n gynhyrfus  
  • Gwendid cyhyrol neu golli pwysau
  • Newidiadau i'w batrwm cwsg neu chwant bwyd.

Fodd bynnag, mae'n bosibl i rywun sydd â dementia fyw bywyd egnïol a llawn pwrpas lle y gall barhau i wneud y pethau sy'n bwysig iddo. Gall diagnosis cynnar helpu pobl sydd â dementia i gael y driniaeth a'r cymorth iawn. Fe all hefyd helpu'r rhai sy'n agos atynt i baratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gyda thriniaeth a chymorth, mae llawer o bobl yn gallu byw bywydau egnïol, boddhaus.

Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i unrhyw un y mae dementia'n effeithio arno

Adnoddau Pecyn Cymorth Dementia Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dilynwch ni