Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio Show Me Where

Awtistiaeth (ASD)

Cynlluniwyd 'Show me where' gan Irene Hammond, nyrs ysgol yn Ysgol Arbennig The Hollies yng Nghaerdydd, i blant ag ASD nad oeddent yn gallu cyfleu poen neu anghysur ac a oedd yn anodd eu harchwilio oherwydd gorbryder neu broblemau synhwyraidd. Sylwodd fod offer Show me where (SMW) yn cael effaith dawelu ar y plant, er mwyn iddynt gyfathrebu heb gyswllt llygaid uniongyrchol, gan leihau gorbryder a'u helpu i ddeall a chydymffurfio yn ystod triniaeth feddygol.

Daw astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd i'r casgliad hwn: “Roedd offeryn SMW yn ddefnyddiol yn ystod ymgynghoriad meddygol â chleifion awtistig, gan wneud iddynt gydymffurfio mwy a phryderu llai, a gwneud archwiliad yn bosibl felly.” 

Archwiliad meddygol 

Mae Dr Sian Moynahan, Cyfarwyddwr Clinigol Iechyd Cymunedol yng Nghaerdydd, yn defnyddio offer  SMW i gyfathrebu â'r holl blant sydd wedi cael diagnosis o Awtistiaeth neu'r rheini sy'n cael anawsterau iaith a chyfathrebu. Dywed: “Mae'n troi plentyn sy'n bryderus neu'n gwrthod cymryd rhan yn blentyn sy'n cydweithredu â'r rhan fwyaf o'r archwiliad, am fod y plentyn wrth y llyw unwaith eto”. “Ni allwn gynnal clinig ASD heb SMW; mae wedi gwneud y gwahaniaeth rhwng cydymffurfio llwyr a methu archwilio plentyn o gwbl.”

Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol 

Defnyddir SMW bellach yn helaeth mewn Ysgolion Arbennig yng Nghymru a rhai ysgolion yn Lloegr. Mae ein cynhyrchion wedi'u cefnogi gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a argymhellodd yr offeryn i rieni ond hefyd i feddygon teulu a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol.

Composite Image

Dementia

Gall offer SMW fod yn ddefnyddiol pan fydd unigolyn â dementia yn colli ei sgiliau iaith. Pan fydd cleifion yn sâl ac yn methu dod o hyd i'r geiriau cywir i ddisgrifio safle'r boen, gall fod yn ddefnyddiol eu bod wedi ymgyfarwyddo â'r offer yn ystod y cyfnod cynnar ac wedi defnyddio'r offeryn yn rheolaidd. Yn enwedig, y rheini sydd mewn cartrefi gofal neu sydd wedi'u derbyn i'r ysbyty ac sydd efallai'n agored iawn i beidio â llawn gydnabod eu poen na llawn drin eu poen. Bydd defnyddio offer SMW o'r cartref i'r ysbyty yn sicrhau parhad gofal ac yn helpu staff meddygol i gyfathrebu â chleifion mewn modd cyfarwydd.

Anabledd Dysgu

Pan na fydd cleifion ag Anabledd Dysgu yn gallu cyfathrebu ar lafar, cyfaddawdir eu gofal. Rhoir nyrsys Anabledd Dysgu bellach yn ysbytai'r GIG i ymateb yn briodol i'r heriau a gyflwynir gan gleifion ag anableddau dysgu.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCAF)

Mae BIPCAF wedi cyflwyno Ap SMW i'w system archebu gweithfan clinigol, i rybuddio staff wrth dderbyn cleifion ag Anableddau Dysgu. Mae offer SMW, ynghyd â'r ‘Pecyn Cymorth Poen i Gleifion ag Anawsterau Cyfathrebu’, yn sicrhau parhad gofal drwy'r holl ysbyty i'r cleifion hyn.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB)

Mae astudiaeth beilot Pain Matters (i'w chyhoeddi yn Haf 2018) a gynhaliwyd gan Nyrsys Cyswllt Iechyd BIPAB wedi dangos effeithlonrwydd offer SMW gyda chleifion ag anableddau dysgu. O ganlyniad, mae offer SMW ar gael drwy'r holl feysydd clinigol yn BIPAB.