Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Rôl AGGCC yw cynnal asesiadau proffesiynol a llunio barn am wasanaethau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol ac, felly, annog gwelliant gan ddarparwyr gwasanaethau.  

Gwnânt hyn trwy dri rhanbarth sy'n cwmpasu Cymru (y gogledd, y de-ddwyrain a'r gorllewin), sy'n ffocws ar gyfer asesu proffesiynol a barnu am wasanaethau a sefydliadau. Mae manylion cyswllt y swyddfeydd hyn ar gael ar wefan AGC.

Maent yn arolygu ac yn adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, ac yn rheoleiddio ac yn arolygu lleoliadau ac asiantaethau gofal.

Mae AGGCC yn rheoleiddio:

  • Cartrefi gofal i oedolion – gan gynnwys cartrefi gofal sy'n darparu gofal nyrsio
  • Asiantaethau gofal cartref 
  • Cynlluniau lleoli oedolion
  • Asiantaethau nyrsys
  • Cartrefi plant
  • Gwasanaethau gofal dydd i blant – gofalwyr plant, gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i'r ysgol, crèches a chwarae mynediad agored 
  • Asiantaethau maethu'r sector cyhoeddus ac annibynnol
  • Asiantaethau mabwysiadu'r sector cyhoeddus a gwirfoddol 
  • Ysgolion preswyl, ysgolion arbennig preswyl a cholegau addysgu bellach sy'n darparu llety ar gyfer myfyrwyr o dan 18 oed 
  • Canolfannau preswyl i deuluoedd

Mae'r rheoleiddio'n cynnwys:

  • Cofrestru 
  • Arolygu – maent yn arolygu'r gwasanaethau hynny ac yn cyhoeddi adroddiadau
  • Cwynion – maent yn ymchwilio i gŵynion ac yn ymdrin â nhw (os nad yw gweithdrefnau cwyno'r darparwyr eu hunain yn gallu ymdrin â nhw) 
  • Cydymffurfio – maent yn helpu gyda chydymffurfio â'r rheoliadau, a 
  • Gorfodi – maent yn cymryd camau gorfodi i wneud yn siwr bod gofynion y Ddeddf Safonau Gofal a'i rheoliadau cysylltiedig yn cael eu bodloni 

Maent yn cyhoeddi adroddiadau ar ganfyddiadau eu hasesiadau, sydd ar gael ar adran gyhoeddiadau eu gwefan ar www.arolygiaethgofal.cymru

Gwybodaeth Gyswllt 

Cyfeiriad swyddfa'r de-ddwyrain yw:

Adeiladau'r Llywodraeth
Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 4UZ
Ffôn: 0300 7900 126 (Rhif ffôn cenedlaethol AGGCC) 
Ffacs: 0872 437 7302
E-bost: AGC@llyw.cymru

Mae manylion cyswllt llawn ar gael ar wefan AGC.

Mae'n bosibl cael gwybodaeth am Safonau Gofal Cenedlaethol, cartrefi gofal penodol, gan gynnwys eu statws cofrestru, a chopïau o adroddiadau arolygu o'r cyfeiriad uchod. 

Os oes gennych unrhyw bryderon neu broblemau'n gysylltiedig â chartref gofal cofrestredig, cysylltwch ag AGC. 

Mae gwybodaeth ychwanegol am y rhan fwyaf o gartrefi nyrsio cofrestredig yn y DU i'w chael ar wefan Bettercaring ar www.bettercaring.co.uk.

 

Dilynwch ni