Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Gofal Parhaus

Beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG?

Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn becyn gofal sy'n cael ei drefnu a'i ariannu gan y GIG yn unig i unigolion y mae asesiad yn dangos bod ganddynt angen iechyd sylfaenol. Gallwch dderbyn gofal iechyd parhaus mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys yn eich cartref eich hun neu mewn cartref gofal. Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG ar gael yn rhad ac am ddim, yn wahanol i gymorth gan wasanaethau cymdeithasol, y gellir codi tâl amdano yn dibynnu ar eich incwm a'ch cynilion. 

Pwy sy'n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG?

Os bydd asesiad yn dangos bod gan unigolyn lefel benodol o angen am ofal, gall dderbyn Gofal Iechyd Parhaus. Nid yw'n dibynnu ar glefyd, diagnosis na chyflwr penodol, na phwy sy'n darparu'r gofal na lle y darperir y gofal hwnnw. Os bydd eich anghenion gofal cyffredinol yn dangos mai angen iechyd yw eich prif angen gofal, gallech fod yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus. Pan fyddwch chi'n gymwys i'w gael, bydd y GIG yn ariannu'ch gofal, ond bydd hwn yn cael ei adolygu a phe bai eich anghenion gofal yn newid, gallai'r trefniadau ariannu newid hefyd.

Gwybodaeth am Ofal Iechyd Parhaus y GIG 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu amrywiaeth o daflenni gyda'r nod o helpu a chyfeirio staff, yr unigolyn ac aelodau teulu trwy'r broses Gofal Iechyd Parhaus a ddefnyddir i benderfynu a yw'r unigolyn yn gymwys.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu fframwaith newydd 2014 ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus, gan amlinellu eu polisi ar gymhwystra ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus, a chyfrifoldebau sefydliadau'r GIG ac awdurdodau lleol o dan y Fframwaith a materion cysylltiedig. Mae'n amlinellu proses i'r GIG, gan weithio gydag awdurdodau lleol partner, asesu anghenion iechyd, penderfynu ar gymhwystra ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus, a darparu gofal priodol. Diben y Fframwaith yw darparu sylfaen gyson ar gyfer asesu, comisiynu a darparu Gofal Iechyd Parhaus i oedolion ledled Cymru. 

Mae Fframwaith diwygiedig 2014 i'w weld yma:

Hefyd, gallai'r polisi gweithredol, y protocolau a'r gweithdrefnau canlynol (dogfennau Saesneg yn unig) fod yn ddefnyddiol i chi:

 

Dilynwch ni