Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeiriadau i'r GDC

Nid yw’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn derbyn hunanatgyfeiriadau. 

Mae’n rhaid i oedolion a phlant sy’n bodloni gofynion meini prawf y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol gael eu hatgyfeirio gan eu hymarferydd deintyddol cyffredinol eu hunain neu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, fel eu meddyg teulu neu eu hymwelydd iechyd, os oes angen triniaeth arnynt yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol. 

Gall cleifion dan 18 oed sy’n cael eu hystyried fel rhai sy’n gallu mynd i weld Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol, ond sydd â gorbryder deintyddol sy’n eu rhwystro (bydd hyn yn cael ei asesu), gael eu hatgyfeirio trwy’r dulliau uchod hefyd. Gellir asesu’r cleifion hyn i weld a ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer tawelydd ymwybodol. 

Dylid gwneud atgyfeiriadau gan ddefnyddio’r system atgyfeirio electronig ar gyfer Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol. 

Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ddefnyddio’r ffurflen isod a’i hanfon at ganolfan weinyddol y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol. 

Caiff atgyfeiriadau eu sgrinio i sicrhau eu bod yn briodol i'n gwasanaeth. Dosbarthir cleifion wedyn i'r clinig mwyaf priodol i'w hanghenion, ac nid yr agosaf o reidrwydd. 

Canolfan Weinyddu 
Mathau o Atgyfeiriadau a Geir

Canolfan Iechyd Glan yr Afon
Wellington St, Caerdydd CF11 9SH

Ffôn: 02920 190175

HOLL atgyfeiriadau Caerdydd a'r Fro (ar gyfer plant, oedolion gofal arbennig, tawelyddu, yn y cartref). 
Dilynwch ni