Os yw eich dannedd chi'n boenus, dylech gysylltu â'ch deintydd i gael apwyntiad. Dylai fod lle gan bob deintydd i allu trin argyfyngau os ydych chi ar ei restr.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintyddfa neu os ydych yn dioddef o boen ddeintiol y tu allan i oriau arferol, gallwch gysylltu â'r llinell gymorth ddeintyddol frys drwy CAV 24/7 ar 0300 10 20 247. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd aelod o'r tîm gofal sylfaenol yn eich brysbennu ac, os oes angen apwyntiad arnoch, byddwch yn cael apwyntiad yn y clinigau deintyddol brys yn yr Ysbyty Deintyddol neu Ysbyty Dewi Sant.
Byddwch yn cael cyngor ar leddfu'r boen ac, os yw'n briodol, yn cael apwyntiad yn y lleoliad brys mwyaf priodol i'ch problem chi, sef efallai Deintydd Gofal Sylfaenol, Deintydd Cymunedol neu Ysbyty Deintyddol y Brifysgol.
Trowch at ein Cyfeiriadur Deintyddol am fanylion cyswllt llawn y deintyddfeydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn YAC hefyd yn darparu ystod o driniaeth frys.
Os byddwch yn llwyddo i liniaru eich poen ddeintiol â chyffuriau lleddfu poen, ac os nad yw eich wyneb wedi chwyddo na'ch anadl wedi'i effeithio, dylech fod yn gallu aros nes bod eich deintydd yn gallu eich gweld.