Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth Frys a Chyngor

Os ydych chi’n dioddef poen dannedd, dylech gysylltu â’ch deintydd i drefnu apwyntiad. Dylai fod gan bob deintydd le ar gyfer argyfyngau os ydych yn mynd yn rheolaidd a’i fod o fewn oriau gwaith arferol. 

Os nad ydych yn mynychu practis deintyddol cyffredinol yn rheolaidd, neu os ydych yn dioddef poen deintyddol y tu allan i oriau gwaith arferol, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ddeintyddol frys drwy CAF 24/7 ar 0300 10 20 247

Bydd aelod o dîm CAF 24/7 yn asesu eich anghenion dros y ffôn ac, os yw’n briodol, trefnir i chi fynd i un o’r clinigau deintyddol brys. 

Byddwch yn derbyn cyngor ar leddfu poen ac, os bydd angen, byddwch yn cael apwyntiad yn y lleoliad brys mwyaf priodol ar gyfer eich problem, a all fod yn Ddeintydd Gofal Sylfaenol h.y. ar y Stryd Fawr, Deintydd Cymunedol neu Ysbyty Deintyddol y Brifysgol. Efallai nad dyma’r lleoliad agosaf at eich cyfeiriad cartref. 

Nid yw’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn darparu gwasanaeth brys 24 awr ac mae ar gau gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc. 


Ardaloedd eraill y tu hwnt i Gaerdydd a'r Fro

Merthyr a Rhondda Cynon Taf:

 0300 123 5060 neu 01685 722803

Ardaloedd eraill gan gynnwys Gwent:

0845 60 10 128 neu 01633 488 389

Dilynwch ni