Neidio i'r prif gynnwy

Asesu Gofal yr Henoed

Ym mis Ionawr 2011, sefydlwyd Uned ECAS (Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed) y Fro yn Ysbyty Dydd y Barri.

Gwasanaeth yw hwn a weithredwyd yn llwyddiannus ers blynyddoedd lawer yng Nghaerdydd. Caiff cleifion eu hatgyfeirio i'r gwasanaeth hwn gan eu meddyg teulu neu Uned Asesu Argyfwng Meddygol neu Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys. Caiff ei staffio gan Ymgynghorydd Geriatreg, Nyrs gofrestredig, Nyrs Therapi Galwedigaethol, Nyrs Ffisiotherapi a Nyrs Gynorthwyol. Ar y mwyaf, mae'r gwasanaeth yn gweld dau glaf newydd ac un claf adolygu bob dydd Llun a dydd Gwener.

Nod uned ECAS yw darparu asesiad mynediad cyflym i bobl sydd mewn perygl o waethygu, neu sy'n gwaethygu gartref neu mewn gofal preswyl, ac y mae cyfraniad amlddisgyblaethol cynnar yn debygol o'u cadw allan o'r ysbyty. 
 
NODAU

  • Cynnal adolygiad mewn pryd o bobl hŷn sydd mewn perygl o waethygu, neu sy'n gwaethygu yn y gymuned, neu'n ffaelu mewn Cartrefi Preswyl.  
  • Darparu cyfraniad amlddisgyblaethol. 
  • Darparu cynllun adsefydlu yn y gymuned lle bo'n briodol. 
  • Cadw cysylltiadau agos â gwasanaethau Gofal Canolraddol eraill. 
  • Darparu asesiad amlddisgyblaethol llawn (ac ysgrifenedig) i alluogi Timau Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Sylfaenol i gefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.   
  • Cydnabod pan fydd angen derbyn claf i wasanaethau gofal eilaidd a chynghori neu drefnu derbyniad felly. 

Gyda'r holl nodau hyn, ymdrecha'r gwasanaeth i:

  • gyrraedd y safon uchaf posibl o berfformiad ar gyfer anghenion unigol ein cleifion 
  • trin cleifion â chwrteisi a pharch
  • darparu gwasanaeth sy'n glinigol effeithiol yn seiliedig ar arfer da gydag ymwybyddiaeth am ymchwil cyfredol
  • trin cleifion yn gyfartal ni waeth beth yw eu tarddiad hiliol neu ethnig, credoau crefyddol, rhyw, oedran, anabledd neu rywioldeb 
  • parchu hawliau'r cleifion i breifatrwydd a chyfrinachedd
  • gwneud y mwyaf o annibyniaeth y cleifion o fewn eu galluoedd. 
Dilynwch ni