Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Mewnol

Gall mynd i'r ysbyty beri straen mawr i blentyn a'i deulu. Dyma ychydig o wybodaeth i geisio gwneud yr amser hwn yn haws i chi. 

Cyn eich ymweliad

Bydd angen i chi ddod â'r canlynol gyda chi.

  • Pethau ymolchi hanfodol
  • Ffôn symudol a gwefrydd
  • Dillad cyfforddus
  • Dillad nos/ sliperi neu esgidiau amgen
  • Llyfrau a chylchgronau
  • Ffonau clust ar gyfer defnyddio dyfeisiau electronig (yn enwedig gyda'r nos)
  • Te/coffi a'ch mwg eich hun

Mae gan yr ysbyty WIFI am ddim os ydych chi'n mewngofnodi i Wifi Am Ddim Elusen Iechyd CAF

Mae angen i chi bacio'r canlynol ar gyfer eich plentyn:

  • Hoff degan neu dedi
  • Dillad nos - pyjama's, sliperi a gŵn llofft
  • Dillad cyfforddus sbâr a dillad isaf
  • Pethau i'w helpu i basio'r amser e.e. comics, llyfrau lliwio, gemau ac ati
  • Ffonau clust ar gyfer dyfeisiau electronig

Efallai y bydd babanod hefyd angen:

  • Dymis
  • Poteli
  • Jel/cylch cnoi
  • Cewynnau
  • Cadachau babanod
  • Hufen cewynnau arferol
Dilynwch ni