Ychydig o achosion, ac eithrio'r Chwe Gwlad, sydd wedi llwyddo i uno pobl Cymru yn y ffordd y gwnaeth Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.
Fe'i ganed o angerdd, gwaith caled ac ymroddiad pobl o bob cwr o'r wlad a ymgyrchodd ac a gododd arian i'w droi yn ganolbwynt gwirioneddol gofal iechyd plant rhagorol i Gymru.
Am fwy na degawd, bu teuluoedd a chymunedau ledled Cymru yn brysur iawn yn ymgymryd â gweithgareddau uchelgeisiol i godi arian i'r ysbyty a chefnogi ei waith.
Codir miliynau o bunnoedd gan y llu o elusennau ymroddedig sy'n rhan bwysig o'i waith.
Mae'r haelioni a'r ymrwymiad hwnnw wedi gweld yr Ysbyty Plant yn cael ei adeiladu a'i gyfarparu, gan wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau ledled Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru £63.8 miliwn mewn cyllid ar gyfer cam dau.
![]() |
Codwyd miliynau o bunnoedd ers i Elusen Ysbyty Arch Noa i Blant lansio'r ymgyrch ar gyfer cam un. Dywedodd Suzanne Mainwaring, Cyfarwyddwr yr elusen, fod yr elusen wedi codi cyfanswm o £20 miliwn i’r ysbyty a'i bod yn bwriadu parhau â’i hymdrechion pwysig. Meddai: “Mae Elusen Ysbyty Arch Noa i Blant wedi gweld cefnogaeth barhaus o bob rhan o Gymru. O werthu cacennau i feicio o'r DU i'r Iseldiroedd, marathon redeg i nosweithiau Elvis yn eich tafarn leol; mae ein holl godwyr arian wedi bod yn rhan o’r daith i adeiladu Ysbyty Arch Noa i Blant. “Mae’n fraint enfawr gweithio ochr yn ochr â phobl gyffredin a busnesau lleol sydd, trwy eu hymdrechion codi arian, yn ein helpu i gefnogi’r ysbyty. “Mae bob amser fwy o ddarnau o offer i’w prynu ac offer i’w gynnal. Rydym yn annog pobl i barhau i'n cefnogi a dod yn rhan o'r etifeddiaeth anhygoel hon.” |
Dim ond un o nifer o bartneriaid elusennol yw Arch Noa sy’n ymdrechu i gefnogi'r Ysbyty Plant. Fel canolfan sy'n cynnig amrywiaeth o ofal arbenigol iawn i blant, mae'r ysbyty'n elwa o gefnogaeth llawer o elusennau arbenigol sy'n chwarae rhan annatod ym mywyd yr ysbyty.
![]() |
Mae Elusen Canser Plant Cymru LATCH yn cefnogi'r plant hyn a'u teuluoedd o adeg y diagnosis hyd at ddiwedd y driniaeth ac mae ganddi swyddfeydd yn yr Ysbyty Plant. Mae'r elusen yn darparu llety cartrefol i deuluoedd, lle gallant aros yn ystod yr wythnosau hir ac weithiau misoedd y mae'r plant yn eu treulio yn yr ysbyty. Darperir grantiau i helpu gyda chostau teithio a chostau byw yn yr ysbyty hefyd, ynghyd â grantiau ar gyfer y nifer o wahanol fathau o wariant sy'n gysylltiedig â phlentyn sy'n derbyn triniaeth. |
Mae gwaith yr Ysbyty Plant yn ysbrydoli cefnogaeth ac ewyllys da o bob rhan o Gymru. Codwyd symiau enfawr o arian gan Wooden Spoon, Dreams and Wishes, yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Plant Sâl, Clic Sargent, Aren Cymru, yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig, Elusennau Tŷ Ronald McDonald a Chronfa Calon Leon.
Mae Cronfa Calon Leon, a sefydlwyd gan ei fam Julie Montanari, yn un o enghreifftiau dirifedi o deuluoedd diolchgar sydd eisiau dangos eu gwerthfawrogiad i staff yr ysbyty am eu gofal a'u cefnogaeth.
Ganwyd ei mab Leon â chyflwr ar y galon, ac roedd angen trawsblaniad calon pan oedd ond yn 10 mis oed. Treuliodd Leon lawer o amser yn yr ysbyty cyn iddo farw yn 13 oed.
|
Mae Julie bellach yn helpu i godi arian ar gyfer grantiau i deuluoedd eraill i helpu gyda chostau teithio. Mae hi hefyd wedi darparu ystafell dawel i’w defnyddio gan deuluoedd a staff, a enwyd er cof am Leon. Mae'r gronfa wedi codi £100,000 hyd yma ac wedi helpu dros gant o deuluoedd. Meddai Julie: “Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r holl staff am yr hyn a wnaethant i Leon, byddaf yn gwneud fy ngorau i’w helpu yn y dyfodol trwy helpu i ddarparu cyfleusterau i wneud eu swyddi yn haws. “Fe wnaethant drin Leon yn arbennig o dda a gwneud popeth o fewn eu gallu. Doedden nhw ddim yn gwneud i ni deimlo ein bod ni yn yr ysbyty - fe wnaethon nhw bob peth yn gartrefol, sy'n bwysig iawn. “Mae'r ysbyty yn bwysig iawn. Os yw'ch plentyn yn sâl - mae'n galonogol eich bod yn gallu mynd i'r ysbyty arbenigol mwyaf a gorau yng Nghymru. Mae'n anhygoel, does dim rhaid i chi adael y wlad i gael y gofal gorau. Mae ei wir angen.” |
Mae elusen swyddogol y bwrdd iechyd ei hun hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr, gan helpu i gefnogi staff gydag arian a godir gan gefnogwyr.
Os hoffech chi helpu i gefnogi gwaith yr Ysbyty Plant, cysylltwch ag un o'r nifer o elusennau gwych sy'n helpu i gefnogi ein gwaith. Cliciwch y delweddau isod i ymweld â'u gwefannau.
![]() |
![]() |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|