Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeirio at y Gwasanaeth NET

Gellir gwneud diagnosis o NETs mewn sawl ffordd, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu canfod i ddechrau gan Gastroenterolegwyr neu Lawfeddygon mewn ysbytai ar ôl atgyfeiriad gan feddygon teulu. Weithiau, caiff cleifion ddiagnosis yn ystod derbyniad brys, neu fe'i canfyddir drwy hap a damwain ar sgan neu endosgopi (heb achosi symptomau).

Gwneir diagnosis fel arfer ar ôl biopsi neu lawdriniaeth. Caiff cleifion sydd â NETs wedi'u cadarnhau neu NETs a amheuir eu cyfeirio at y gwasanaeth NET gan dîm clinigol bwrdd iechyd lleol at yr MDT NET gan gwblhau profforma ar-lein.

Darllenwch fwy o wybodaeth ar wefan Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru.

Dylai cleifion o ogledd Cymru gael eu hatgyfeirio at y ganolfan NET yn Lerpwl.

Dilynwch ni